Broga

Common frog

©Guy Edwardes/2020VISION

Broga

Dyma ein hamffibiad mwyaf adnabyddus. Mae’r broga’n ymwelydd rheolaidd â phyllau gardd ledled y wlad, lle mae’n gwledda ar falwod a gwlithod. Yn y gaeaf, mae’n gaeafgysgu mewn mwd mewn pyllau neu o dan bentyrrau o foncyffion.

Enw gwyddonol

Rana temporaria

Pryd i'w gweld

Chwefror i Hydref

Species information

Ystadegau

Hyd: 8 i 13cm
Pwysau: 22g
Oes ar gyfartaledd: 5 i 10 mlynedd

Statws cadwraethol

Cyffredin. Wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981

Ynghylch

Amffibiaid yw brogaod, yn magu mewn pyllau yn ystod y gwanwyn ac yn treulio llawer o weddill y flwyddyn yn bwydo mewn coetiroedd, gerddi, gwrychoedd a glaswelltir twmpathog. Maen nhw’n bwydo ar amrywiaeth o infertebrata a hyd yn oed amffibiaid llai. Maen nhw’n gadael 'rafftiau' mawr o rifft mewn pyllau, sy’n deor yn y pen draw yn benbyliaid cyfarwydd. Cadwch lygad amdanyn nhw’n torheulo mewn dŵr bas ar ymylon pyllau. Mae brogaod yn treulio'r gaeaf yn swatio mewn llecyn cysgodol, fel gwaelod pentwr o foncyffion, mewn twll mamaliaid neu mewn tomen gompost. Efallai y bydd rhai’n treulio'r gaeaf yn y mwd ar waelod pwll hyd yn oed.

Sut i'w hadnabod

Mae lliw y broga’n amrywio'n fawr, o wyrdd i frown a hyd yn oed coch neu felyn. Mae ganddo groen llyfn, 'masg' tywyll y tu ôl i'r llygad a choesau ôl hir, wedi'u gorchuddio â bandiau tywyll. Mae'n hopian ac yn neidio yn hytrach na cherdded, ac yn dodwy grifft mewn clystyrau mawr tebyg i jeli.

Dosbarthiad

I'w weld ledled y wlad, ac eithrio rhai o ynysoedd yr Alban, rhai o Ynysoedd Sili ac Ynysoedd y Sianel.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gan frogaod gwrywaidd 'badiau priodasol' ar eu traed blaen i'w helpu i afael yn y benywod yn ystod y tymor magu. Bydd y broga gwrywaidd yn lapio ei hun o amgylch y fenyw ac yn ffrwythloni ei hwyau wrth iddyn nhw gael eu cynhyrchu; gall broga benywaidd ddodwy hyd at 4,000 o wyau mewn un gwanwyn! Gall brogaod silio mor gynnar â mis Rhagfyr neu mor hwyr â mis Ebrill, yn dibynnu ar y tywydd. Ar ôl deor, mae’r penbyliaid yn cymryd tua 14 wythnos i drawsnewid yn frogaod bach.