Oeddech chi'n gwybod bod Ynys Môn yn gartref i'r ail gorsdir mwyaf yn y DU? Mae’r cynefinoedd prin ac unigryw yma’n storio hyd at wyth gwaith mwy o garbon na choedwig law o'r un maint, gan chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Ond mae dyfodol y llecynnau arbennig yma a’r dreftadaeth ddiwylliannol sydd ganddynt mewn perygl.
Mae Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy'n ceisio diogelu dyfodol Corsydd Môn a dathlu eu hanes cyfoethog.
Beth fydd y prosiect yn ei wneud?
Gan weithio gyda ffermwyr, perchnogion tir, grwpiau treftadaeth, ysgolion a chymunedau lleol, bydd y prosiect yn:
• codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl ac i fyd natur.
• cefnogi ffermydd lleol gydag arferion cynaliadwy sy'n meithrin gwytnwch ac yn gwarchod tir a bywoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
• archwilio a chofnodi treftadaeth y corsydd, gan ddathlu'r diwylliant a'r hanes sydd wedi'u gwreiddio yn y dirwedd.
• gwella iechyd cynefinoedd corsdir presennol a chreu cysylltiadau cryfach rhyngddynt ar gyfer ecosystemau gwytnach.
• gwneud y safleoedd yn fwy hygyrch fel bod mwy o bobl yn gallu eu profi a'u mwynhau.
• darparu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant sgiliau, a gweithgareddau lles cymunedol.
Pwy sy'n cymryd rhan?
Mae Corsydd Calon Môn yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Menter Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido?
Mae Corsydd Calon Môn yn cael ei gyllido diolch i chwaraewyr y loteri drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gydag arian ychwanegol i gefnogi’r prosiect gan Sefydliad Esmée Fairbairn.
Dim ond 4% o Gymru sydd wedi’i orchuddio gan fawndir, ond mae’n storio 30% o’n carbon ar y tir ac mae’n hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfyngau Hinsawdd a Natur.
Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd
Prif leoliadau Corsydd Calon Mon - Matt Canning
Dyddiau 'Ffentastig' ar Ynys Môn!
Ym mis Medi cynhaliodd ein prosiect partneriaeth ni, Corsydd Calon Môn, ddau ddigwyddiad 'Diwrnod Ffentastig' addas i…
What's in a name?
Back in February (yes, we know it’s September now, but good things take time), the Corsydd Calon Môn team hosted two brilliant community…
Taith y Logo!
Mae gan ein prosiect Tirweddau Byw Corsydd Calon Môn logo newydd! Darllenwch ymlaen i glywed sut y cafodd y logo ei gyd-ddylunio gan…