Strategy 2030 goal 2

2030 strategy_goal 2

Pobl yw’r allwedd i adferiad byd natur. Mae angen natur ar gymdeithas ond eto rydym wedi ein datgysylltu fwyfwy oddi wrth ein hamgylchedd naturiol. Fel y dywedodd Syr David Attenborough, “No one will protect what they don’t care about; and no one will care about what they have never experienced.”

Mae llawer o bobl yn methu cael mynediad i lefydd gwyllt yn agos at eu cartrefi. Yn rhy aml, mae hyn yn gysylltiedig â phroblemau sylfaenol mewn cymdeithas fel gwahaniaethu, braint neu ormes. Rhaid i sector yr amgylchedd wneud mwy i oresgyn hyn.

Yn y cyfamser, mae rhai sectorau o’r gymdeithas mewn mwy o berygl nag eraill oherwydd effeithiau heriau byd-eang - yn enwedig pobl ifanc, a fydd yn teimlo effeithiau’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol fwyaf yn ystod eu hoes, a phobl o gefndiroedd difreintiedig. Ar gyfer y grwpiau hyn, mae materion yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol wedi’u hymgorffori o fewn materion hinsawdd ac ecolegol ehangach. 

Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio i ddeall y rhwystrau sy’n bodoli rhwng unigolion, cymunedau a byd natur; gan geisio grymuso pobl o bob hunaniaeth, diwylliant, cefndir a gallu i werthfawrogi, mwynhau, codi llais a gweithredu dros fywyd gwyllt. Byddwn yn cysylltu pobl â mannau naturiol ac yn meithrin eu hymdeimlad o berthyn iddynt drwy ymgysylltu â’r gymuned yn well a chreu mannau gwyllt diogel, cynhwysol yn agos at ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae. 

Byddwn yn gwrando ar ein cefnogwyr, yn cysylltu pobl â’i gilydd ac yn eu grymuso i greu newid gwirioneddol, fel ein bod yn gallu newid ymddygiad a sbarduno gwell penderfyniadau ar gyfer byd natur ar draws y byd gwleidyddol a chorfforaethol, ar lefel leol a chenedlaethol.  

Ewch yn ôl i dudalen strategaeth