2030 Strategy Goal 3

2030 strategy_goal 3

Beaver © Chris Robbins

Yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, mae dynoliaeth yn wynebu heriau niferus yn sgil cwymp systemau naturiol a hinsawdd fyd-eang sy’n cynhesu. Mae tystiolaeth hefyd o ddirywiad amlwg yn lles corfforol a meddyliol rhai segmentau o’r boblogaeth ehangach.
 
Ni fydd dynoliaeth yn gallu mynd i’r afael â’r problemau hyn oni bai fod cymdeithas yn gadael i fyd natur helpu. Gall datrysiadau hinsawdd naturiol ddarparu tua thraean o’r mesurau lliniaru hinsawdd cost-effeithiol sydd eu hangen rhwng nawr a 2030 i sefydlogi’r cynhesu i lai na 2°C tra hefyd yn mynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol ar yr un pryd.  

Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, nid yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn ymwybodol nac yn llwyr werthfawrogi’r rôl y gallai ac y dylai natur fod yn ei chwarae wrth helpu cymdeithas i fynd i’r afael â’r heriau hyn a sbarduno newid cadarnhaol. Nid yw systemau naturiol sydd wedi’u diraddio a’u hecsbloetio yn gallu darparu’r datrysiadau seiliedig ar natur sy’n rhan mor fawr o’r ateb, ac nid yw pobl a chymunedau sydd wedi’u datgysylltu oddi wrth natur yn gallu cael mynediad llawn a gwerthfawrogi’r ystod eang o fuddion y gall byd natur eu cyflwyno i’n bywydau ni. 

Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill, yn adfer ein hecosystemau naturiol ar raddfa ac yn dangos yr hyn sy’n bosibl, fel bod cynefinoedd naturiol yn gallu dal a storio carbon, helpu i atal llifogydd, lleihau erydiad pridd, gwella ffrwythlondeb pridd, darparu gwasanaethau peillio, caniatáu i fyd natur adfer yn y môr a chefnogi gwelliannau i les corfforol a meddyliol pobl.

Drwy fudiad yr Ymddiriedolaethau Natur, byddwn yn defnyddio ein llais ar y cyd i eiriol dros sut – fel cymdeithas – y gallem ac y dylem fod yn defnyddio datrysiadau sy’n seiliedig ar natur i helpu i fynd i’r afael â heriau niferus a sbarduno newid byd-eang cadarnhaol.

Yn olaf, fel perchennog tir allweddol, defnyddiwr ynni, defnyddiwr dŵr, trefnydd digwyddiadau, gweithredwr fflyd o gerbydau, addysgwr, adwerthwr ac ymgynghoriaeth, rydym yn cydnabod bod angen i ni arwain drwy esiampl o ran sut rydym yn rheoli ein heffeithiau amgylcheddol a chymunedol ein hunain. 

Ewch yn ôl i dudalen strategaeth