Beached! Beth sydd ar eich traethlin chi?

Strandline wildlife

Strandline wildlife © Tanya Perdikou

Digwyddiad Beached! event Llanfairfechan - NWWT

Digwyddiad Beached! event Llanfairfechan - NWWT

Beached! Beth sydd ar eich traethlin chi?

Lleoliad:
Neuadd Pendre, 4 Brook street, Tywyn, LL36 9DP
Dewch draw i ddysgu sut gall y pethau rydych chi’n eu darganfod ar y traeth gefnogi cadwraeth forol gyda'r sesiwn hyfforddi fer yma.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Neuadd Pendre, 4 Brook Street, Tywyn, Gwynedd, LL36 9DP. What3Words///meatball.correctly.memo
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 12:30pm
A static map of Beached! Beth sydd ar eich traethlin chi?

Ynglŷn â'r digwyddiad

Bob dydd, mae'r llanw’n golchi gwrthrychau naturiol ar ein traethau. I'r rhai sydd â'r wybodaeth gywir, mae'r eitemau yma’n arwyddion o beth sy'n digwydd yn ein moroedd ni. Mae rhai’n cael eu golchi i mewn o bell, rhai’n dibynnu ar y tymor, ac eraill yn benodol i draethau penodol.

Yn ystod y sesiwn hyfforddi yma byddwn yn eich cyflwyno chi i wrthrychau sydd wedi cael eu golchi i'r lan, ac yn dysgu sut i'w hadnabod nhw a'u cofnodi er mwyn cefnogi cadwraeth forol.

Byddwn yn cyflwyno ein prosiect monitro’r draethlin, 'Beached!', ac yn casglu eich barn chi am weithgareddau morol yn Ne Gwynedd.

Ni fyddwn yn ymweld â'r traeth yn ystod y sesiwn yma.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Arbenigwyr, Dechreuwyr, Beginners

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Cŵn tywys yn unig

Symudedd

Ni fyddwn yn ymweld â'r traeth yn ystod y sesiwn yma.

Mae Neuadd Pendre yn lleoliad hygyrch ond mae'r cyfleusterau parcio gerllaw yn gyfyngedig.

Mae bysiau a threnau’n rhedeg yn eithaf rheolaidd i Dywyn o lefydd ymhellach i'r gogledd. Mae'r orsaf tua 5 i 10 munud ar droed o Neuadd Pendre.

Mynediad i gadeiriau olwyn

Ydyn, ond mae'r llefydd parcio gerllaw yn gyfyngedig.
P

Gwybodaeth am barcio

Mae’n gallu bod yn anodd parcio ger y neuadd felly rhowch ddigon o amser i chi'ch hun barcio yn rhywle arall yn Nhywyn a cherdded i'r lleoliad. Maes Parcio Rhodfa'r Môr, Tywyn, LL36 0DE ydi maes parcio'r cyngor – mae am ddim yn ystod y gaeaf.
i

Facilities

Toiledau
Toiled i'r anabl

Cysylltwch â ni

Dawn Thomas
Rhif Cyswllt: 07584311584