Crefftau sêr môr Nadoligaidd

Marine christmas decorations

Marine christmas decorations © NWWT

Crefftau sêr môr Nadoligaidd

Lleoliad:
Tanio Bermo, Gwelfor Shop, King Edward Street, Barmouth, Barmouth, LL42 1AD
Ymunwch â ni i ddysgu, trafod a chreu rhywbeth Nadoligaidd gyda thema morol!

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Tanio Bermo, Siop Gwelfor Stryd y Brenin Edward, Abermaw, LL42 1AD. What3Words///spud.twist.tape
View on What3Words

Dyddiad

Time
3:00pm - 5:30pm
A static map of Crefftau sêr môr Nadoligaidd

Ynglŷn â'r digwyddiad

Rydym ni’n awyddus i ddysgu mwy am yr hyn mae pobl yn ei feddwl am y môr yn agos at ble maen nhw'n byw. Dewch draw i greu addurniadau coeden ar thema'r môr a rhannu eich barn am gymryd mwy o ran mewn gofalu am fywyd gwyllt y môr yn eich ardal leol. 

Byddwn yn dangos cyflwyniad byr am fywyd o dan y tonnau i'ch ysbrydoli ac i ddangos pa greaduriaid sy'n byw yn eich Ardal Forol Warchodedig (MPA) leol.

Darperir yr holl offer ynghyd â lluniaeth ysgafn.

Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg os dymunwch.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Arbenigwyr, Dechreuwyr, Beginners

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

Cŵn tywys yn unig

Symudedd

Mae gofod Tanio ar stryd y Brenin Edward. Mae stepen fawr i mewn i'r adeilad, sydd wedyn i gyd yn un lefel, gydag ardaloedd agored oddi mewn.

Byddwn yn dangos cyflwyniad, a fydd yn ddwyieithog, ond yn bennaf bydd yn cynnwys lluniau o fywyd morol.

Mynediad i gadeiriau olwyn

Nac ydyn

Beth i'w ddod

Os hoffech chi ddefnyddio eich sgrapiau eich hun o ddefnydd i wneud rhywbeth, mae croeso i chi ddod â'ch defnydd sbâr. Fel arall, bydd gennym yr holl offer sydd eu hangen i greu eich addurniadau gan ddefnyddio templed a grëwyd gan un o'n gwirfoddolwyr sy'n cynnal arolygon o'r parth rhynglanwol.

Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu (rhowch wybod i ni os oes gennych chi anoddefiad dietegol).

P

Gwybodaeth am barcio

Mae trafnidiaeth gyhoeddus i Bermo yn dda gyda threnau a bysiau yn gymharol aml. Mae'r lleoliad tua 200 metr o'r gorsafoedd bysiau a threnau. Mae parcio am 3 awr ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor lleol yn costio £4.60.
i

Facilities

Toiled i'r anabl

Cysylltwch â ni

Dawn Thomas
Rhif Cyswllt: 07584311584