Bug hunt © NWWT
Dewch ar drip i bob oed i ddod o hyd i drychfilod a'u hadnabod, gan gynnwys pryfed cop, ceiliogod rhedyn a chwilod.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Fe fyddwn ni’n archwilio gwahanol gynefinoedd gan gynnwys glaswelltir, coed a phwll, i ddod o hyd i drychfilod a'u casglu nhw, gan gynnwys pryfed cop, gweision y neidr, chwilod a cheiliogod rhedyn.
Wedyn fe fyddwn ni’n trosglwyddo ein darganfyddiadau i'r labordy. Yma, fe fyddwn ni’n eu harchwilio o dan ficrosgopau ac yn chwilio drwy ein llyfrau i adnabod a chymharu'r gwahanol drychfilod rydyn ni wedi eu darganfod. Wedyn fe fyddwn ni’n eu rhyddhau yn ôl i'r gwyllt.
Bydd te, coffi, dŵr a chacen ddi-glwten yn cael eu darparu.