Fel partner hirdymor i Y Môr a Ni, rhaglen llythrennedd y môr genedlaethol Cymru, rydyn ni’n falch o fod wedi chwarae rhan flaenllaw yn dathlu ein hamgylchedd morol anhygoel a'r bobl sy'n gweithredu i helpu i'w warchod.
Gan ddechrau ar 19eg Mehefin yn y Barri, aeth Ras Gyfnewid Baton y Brenin o amgylch Cymru, gan gyrraedd Gogledd Cymru ar 22ain a 23ain Mehefin. Mae'r Ras Gyfnewid wedi bod yn rhedeg ar yr un pryd o amgylch pob un o 74 o wledydd y Gymanwlad, cyn cyrraedd Glasgow mewn pryd i'r Gemau ddechrau yn haf 2026.
Ar ddydd Llun 22ain Mehefin, fe wnaethon ni ymuno â Thîm Cymru a'n partneriaid ni yn Y Môr a Ni, sef Prosiect SIARC, BSAC (Clwb Tanddŵr Prydain) a Phen Llŷn a'r Sarnau ym Mhorthdinllaen i ddathlu ein moroedd a'n harfordiroedd anhygoel yng Nghymru, ein bywyd gwyllt morol unigryw a'n gwirfoddolwyr anhygoel. Fe gawson ni gyfle cyffrous i ddathlu gyda'n gwirfoddolwyr cwbl arbennig yn gweithredu fel 'cludwyr baton' yn ystod digwyddiadau'r wythnos. Fe wnaethon ni ddechrau'r diwrnod drwy gynnal helfa plisg wyau siarcod gyda chludwyr y baton a hyrwyddwyr hirdymor Prosiect SIARC, Teri a Bob, wnaeth orymdeithio'n falch ar hyd y traeth, gan gasglu ac adnabod plisg wyau siarcod a môr-gathod lleol.