Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi

Marine port swift

Marine port swift © Ben Stammers

Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi

Lleoliad:
Ucheldre Centre, Millbank Road, Holyhead, Anglesey, LL651TE
Cyfle i wylio arddangosfeydd awyr y gwenoliaid duon o amgylch Caergybi a gweld safle bocsys nythu pwysig ar gyfer yr adar arbennig yma

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Canolfan Ucheldre, Millbank, Caergybi, LL65 1TE ///supporter.crop.vacancies

Dyddiad

Time
7:45pm - 10:00pm
A static map of Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi

Ynglŷn â'r digwyddiad

Er gwaethaf dirywiad eang y gwenoliaid duon, mae Caergybi yn gartref i boblogaeth lwyddiannus mewn bocsys nythu ym Mhorthladd y Môr, ynghyd â llond llaw o safleoedd nythu eraill. Ymunwch â swyddog gwenoliaid duon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ben Stammers, ar ein taith gerdded flynyddol o amgylch y dref a dysgu am sut gallwn ni helpu'r adar anhygoel yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Taith gerdded bywyd gwyllt drefol ydi hon yn bennaf, ar balmentydd a ffyrdd, felly byddwch yn ymwybodol iawn o'ch diogelwch eich hun, yn enwedig wrth ymyl traffig. Does dim toiledau cyhoeddus ar agor gyda'r nos yng Nghaergybi, ond mae sawl tafarn yn y dref.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gall sbienddrych fod yn ddefnyddiol ond ddim yn hanfodol.

Gwisgwch ar gyfer y tywydd a gwisgwch esgidiau addas ar gyfer taith gerdded o amgylch y dref.

Cysylltwch â ni

Mark Roberts
Rhif Cyswllt: 01248351541