Marine port swift © Ben Stammers
Taith gerdded gwenoliaid duon Caergybi
Lleoliad:
Ucheldre Centre, Millbank Road, Holyhead, Anglesey, LL651TE
Cyfle i wylio arddangosfeydd awyr y gwenoliaid duon o amgylch Caergybi a gweld safle bocsys nythu pwysig ar gyfer yr adar arbennig yma
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Er gwaethaf dirywiad eang y gwenoliaid duon, mae Caergybi yn gartref i boblogaeth lwyddiannus mewn bocsys nythu ym Mhorthladd y Môr, ynghyd â llond llaw o safleoedd nythu eraill. Ymunwch â swyddog gwenoliaid duon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ben Stammers, ar ein taith gerdded flynyddol o amgylch y dref a dysgu am sut gallwn ni helpu'r adar anhygoel yma.