Gors Maen Llwyd_NWWT
Taith gerdded gweilch y pysgod yng Nghors Maen Llwyd
Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd,
Nantglyn, Sir Ddinbych, LL16 5RN
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Gors Maen Llwyd ar lan ogleddol Llyn Brenig Dŵr Cymru Welsh Water ydi un o'n gwarchodfeydd natur mwyaf ni. Mae'r lleoliad rhyfeddol yma’n darparu lleoliad unigryw sydd wedi galluogi i fywyd gwyllt ffynnu ac mae pâr o weilch y pysgod wedi penderfynu galw'r lle yma’n gartref am yr 8 mlynedd diwethaf.
Ar y daith gerdded gweilch y pysgod 5k yma yng Nghors Maen Llwyd, byddwch yn cael eich tywys gan Trish a Sophia, Prif Wirfoddolwyr Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig. Byddant yn mynd â chi ar hyd glannau gogleddol Llyn Brenig a thrwy Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd, lle byddwch chi’n gallu gweld tirwedd gyfan y gweilch y pysgod o bellter diogel a chyfreithiol.
Cost y tocynnau ydi eich rhodd chi i Brosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.