Gweilch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Brenig

Gweilch y pysgod yn dychwelyd i Lyn Brenig

Ospreys, male and female on the nest © Andy Rouse 2020/VISION

Newyddion cyffrous gan dîm Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig wrth i ni groesawu pâr magu o weilch y pysgod yn ôl.

Yn dilyn siwrnai o 3000 o filltiroedd (gan gynnwys stop am wythnos ym Madrid), fe gyrhaeddodd gwalch y pysgod benywaidd, wedi'i modrwyo â 372, nyth Llyn Brenig ar ddydd Gwener 3ydd Ebrill. Mae hi wedi dod i ddechrau ei thrydydd tymor magu ar lannau'r llyn.

Mae 372 yn walch y pysgod diddorol. Cafodd ei geni yn yr Alban yn 2021 ac roedd yn rhan o'r prosiect trawsleoli i Harbwr Poole. Mae prosiectau trawsleoli’n symud y cywion ieuengaf, mwyaf agored i niwed o'u nythod i leoliadau newydd yn tua phump wythnos oed, unwaith maen nhw’n gallu bwydo eu hunain ond, yn hollbwysig, yn methu â dal eu pysgod eu hunain eto. Wedyn maen nhw’n hedfan y nyth ac yn aros o gwmpas yr ardal newydd am bump wythnos arall, gan ddod i adnabod y diriogaeth, gyda'r gobaith y byddan nhw’n dychwelyd yno i fagu. Yn ffodus i ni, fe benderfynodd 372 deithio i Ogledd Cymru yn lle aros yno.

Cyrhaeddodd LJ2, ein gwalch y pysgod gwrywaidd godidog, ar 7fed Ebrill. Ganwyd LJ2 yn yr Alban yn 2018 ac mae wedi bod yn wryw magu yn Llyn Brenig ers 2021. Mae'n wryw llai, eiddil ond ffyrnig, sy'n amddiffynnol o'i diriogaeth ac, fel y gwelson ni y llynedd, yn fwy na pharod i erlid unrhyw herwyr gwrywaidd sy'n ceisio meddiannu ei nyth.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd y pâr yma’n ei wneud yn 2026.