Mae bron yn amser am 30 Diwrnod Gwyllt, her natur flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur. Allwch chi ymuno â miloedd o bobl sy’n gwneud un peth gwyllt y dydd ym mis Mehefin?
Yr eiliadau bach hynny sy’n bwysig fel rhan o 30 Diwrnod Gwyllt. Arogl hyfryd blodau gwyllt wrth i chi grwydro drwy'r parc, golau’r haul ar eich wyneb wrth i chi eistedd mewn gardd, neu sŵn melys cân yr adar ar yr awel o goeden ar y stryd. Mae'n ein hatgoffa ni, lle bynnag rydyn ni, bod natur ar gael, hyd yn oed os mai dim ond sbecian drwy graciau yn y palmant y mae.
Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn ein hannog ni i wneud ychydig o amser i gysylltu â'r byd natur o'n cwmpas ni, i greu atgofion gwyllt newydd. Felly, i ddathlu'r cysylltiadau gwyllt yma, fe wnaethon ni ofyn i rai o staff yr Ymddiriedolaethau Natur rannu eu hatgofion cynharaf o fod ym myd natur.