Summer wildflowers © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography
Cyfle i ymestyn eich coesau a dysgu am y blodau gwyllt lliwgar yma yn Llyn Brenig.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch i ymuno â'n grŵp cerdded misol ni, gan archwilio byd natur a bywyd gwyllt gyda theithiau cerdded ar thema wahanol. Thema'r mis yma ydi 'blodau gwyllt'.
Rhwng mis Ebrill a mis Medi, mae Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig yn cynnal teithiau cerdded thema misol. Mae'r daith gerdded yma’n un hamddenol hyd at 2 filltir o hyd o amgylch y ffordd fynediad ar ochr orllewinol Llyn Brenig. Dewch draw, ymestyn eich coesau a dysgu am y blodau gwyllt o amgylch y gronfa ddŵr.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.
Bwcio
Pris / rhodd
£10Mae pris eich tocyn yn rhodd i Brosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.