Beth yw’r Senedd?
Yn syml, Senedd Cymru yw senedd Cymru (syml!), wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd. Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd ei henw rhwng 1999 a 2020. Dyma’r lle lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n siapio bywyd bob dydd ledled y wlad.
Mae hynny’n cynnwys pethau fel:
- Sut rydym yn diogelu ac adfer natur.
- Beth rydym yn ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd
- Sut mae ffermio a thir yn cael eu rheoli
- Atal llygredd
- Beth sy’n cael ei adeiladu (a ble)
- Iechyd y cyhoedd ac addysg
Felly, pan fyddwn yn sôn am adfer natur, gwella ansawdd dŵr, neu gefnogi ffermio sy’n gyfeillgar i natur, dyma le mae llawer o’r penderfyniadau hynny’n digwydd.