Gwneud traciau yn Nolgarrog
Mae Gwneud Traciau yn brosiect newydd cyffrous, wedi'i leoli ym mhentref Dolgarrog, yng nghalon Dyffryn Conwy hardd. Mae'r pentref yn adnabyddus am ei orffennol diwydiannol a Thrychineb Argae Eigiau yn 1925. Nod y Prosiect yw cynyddu bioamrywiaeth yn y dirwedd ehangach a chreu llwybrau hygyrch lle gall bywyd gwyllt a phobl ffynnu gyda'i gilydd.
Beth fydd y prosiect yn ei wneud?
- Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Dolgarrog, bydd y prosiect yn anrhydeddu canmlwyddiant trychineb yr Argae ac yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu mwy am yr hanes, y bywyd gwyllt a’r dirwedd ar garreg eu drws a chysylltu â nhw.
- Bydd y Prosiect yn creu tirwedd iachach, fwy rhyng-gysylltiedig drwy wella llwybrau a chysylltu tri safle arwyddocaol - Gerddi Coffa Porthllwyd, Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Coed Dolgarrog a Phwll Du (o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Eryri).
- Byddwn yn ymgysylltu â'r gymuned leol ac ehangach drwy weithgareddau creadigol, digwyddiadau, gweithdai a theithiau cerdded tywys ar thema bywyd gwyllt.
- Byddwn yn datblygu grŵp cadwraeth gwirfoddol lleol. Gan gyfarfod yn wythnosol, bydd y grŵp yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn adfer cynefinoedd yn yr ardal leol.
Oeddech chi'n gwybod?
- Coed Dolgarrog yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol coetir fwyaf (69 hectar) a mwyaf amrywiol Cymru.
- Mae rhan o'r safle wedi'i chynnwys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Eryri.
- Mae Coed Dolgarrog wedi'i dosbarthu fel "coedwig law dymherus".
- Mae Coed Dolgarrog yn gartref i fwsoglau sffagnwm, ffyngau, pathewod, ystlumod, adar y coetir, gwyfynod a llawer mwy!
Pwy sy'n rhan o'r prosiect?
Mae Gwneud Traciau yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Cymuned Dolgarrog ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Rydyn ni’n gweithio mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru, R.W.E., a Pharc Cenedlaethol Eryri. Katy Haines yw'r Rheolwr Prosiect a Sue Loughran yw'r Swyddog Prosiect.
Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido?
Mae Gwneud Traciau yn brosiect tair blynedd, sy'n rhedeg tan fis Mawrth 2028, wedi'i gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.