Dro Dŵr: Afon Lledr

The Lledr river, a calm wide river, with trees on one bank and gently sloping farm fields leading up to a hill on the other bank. The river is dark in shadow, but with clouds and blue sky reflected in it.

Afon Lledr Dolwyddelan © Iwan Edwards

Dro Dŵr: Afon Lledr

Lleoliad:
Dolwyddelan, Maes parcio'r orsaf drenau, Conwy, LL25 0UJ
Dolwyddelan, Conwy Ymunwch â ni ger yr afon ar gyfer gweithdy creadigol sy'n archwilio ein perthynas â dŵr croyw

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Gorsaf drenau Dolwyddelan LL25 0TJ ///stud.dull.loudness
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:30am - 3:00pm
A static map of Dro Dŵr: Afon Lledr

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ymunwch â ni ar Fawrth 21ain ar gyfer y Dro Dŵr nesaf gyda gwesteion creadigol arbennig o'r Almaen.

Mae Syndikat Gefährliche Liebschaften yn gydweithfa perfformio rydan ni wedi bod yn cydweithio â nhw am 18 mis.

Mi fydda nhw yn darparu gweithgareddau chwareus i archwilio gwahanol safbwyntiau ar byd y dŵr yn ystod y daith gerdded, er engrhaifft - Beth mae edrych ar ddŵr ac rhywun yn edrych arno yn ei olygu i ddŵr? Sut mae gwylio dŵr yn creu perthynas? Beth sydd erioed wedi ei arsylwi?

Ar hyd ein taith gerdded, bydd ymarferion creadigol yn archwilio straeon personol am gysylltiadau dyfrllyd. Gyda'n gilydd, byddwn yn darganfod theatr dŵr bob dydd - yn rhedeg i lawr boncyff coeden, yn casglu mewn pwll mwdlyd, yn ein hamgylchynu wrth i ni orffwys - a nawn ni geisio fod ei hoff gynulleidfa.

 

Ynglŷn â Syndikat Gefährliche Liebschaften (Syndicet Cysylltiadau Peryglus)

Ma nhw’n cysylltu â mannau a chymunedau gwledig ledled yr Almaen trwy wahanol gyfryngau fel perfformiadau theatrig, arddangosfeydd, dramâu radio, partïon a teithiau cerdded. Maent yn ystyried cefn gwlad fel gofod sydd wedi bod yn amrywiol erioed, yn cwiar, ac yn fyd-eang. Yn eu gwaith maent yn archwilio ffyrdd o adrodd straeon gwledig sy'n gwahodd newid persbectif ac yn dangos ein cysylltiadau â'n gilydd.

Mae Dyffryn Dyfodol wedi bod yn cydweithio â Syndikat Gefährliche Liebschaften, trwy raglen ryngwladol Cultural Bridge, lle rydym wedi cynnal ymweliadau cyfnewid a gweithgareddau cydweithredol. Ein bwriad ar y cyd yw dod â phobl at eu gilydd i adeiladu pethau cadarnhaol, gyda chreadigrwydd, ysbryd ymholi a charedigrwydd i gymunedau a'r blaned. Rydym wrth ein bodd yn peidio â gwybod beth fydd yn dod i'r amlwg, felly dewch ar daith o ddarganfod gyda Syndikat Gefährliche Liebschaften.

 

Prosiect Sampl Dŵr: Os hoffech gyfrannu at ein prosiect profi dŵr, dewch â sampl o ddŵr gyda chi! Byddem wrth ein bodd yn ychwanegu eich data at ein map wrth i ni geisio ateb cwestiwn craidd o’n cam cyntaf: 'Beth sydd yn y dŵr?' (https://www.gofodglas.org/sampledwr). Gall y samplau ddod o unrhyw le neu unrhyw ffynhonnell.

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid Cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn
image/svg+xml

Symudedd

Taith gerdded hamddenol gan ddilyn yr Afon Lledr tuag at Flaenau Dolwyddelan. 5.5 milltir.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn a dewch â rhywbeth i ginio.

Cysylltwch â ni