Plast Off! 2026

A large gathering of people in winter clothing, in a sandy dune edge car park. Most are holding litter pickers and blue or red bags, one at the front is wearing high visibility yellow and addressing the crowd through a megaphone. The day is clear and cold with a pale blue sky and light streaky clouds.

Plastoff 25 start © Jayke NWWT

Plast Off! 2026

Lleoliad:
Porth Tyn Tywyn, Aberffraw, Rhosneigr, Ynys mon, LL63 5TE
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad glanhau traeth blynyddol mwyaf, a dechrau eich blwyddyn newydd gyda chamau cadarnhaol dros y blaned.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

LL63 5TE / W3W: sparkles.emotional.crouches
View on What3Words

Dyddiad

Time
10:00am - 2:00pm
A static map of Plast Off! 2026

Ynglŷn â'r digwyddiad

Pam ddim cychwyn y flwyddyn newydd hefo gweithred bositif i’r blaned a’n arfordir delfrydol leol?

Bydd ein 9fed sesiwn Plast Off! blynyddol i lanhau traeth ym Mhorth Tyn Tywyn ar Ynys Môn

Ym maes parcio Porth Tyn Tywyn, fe welwch ganolfan Plast Off! Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru gyda staff a'r gwirfoddolwyr ifanc sy'n helpu i drefnu digwyddiad eleni.

Yn ein maes parcio, byddwch yn gallu:

  • Casglu offer glanhau traeth
  • Archwiliwch ein stondinau gwybodaeth â thema forol
  • Dod i wybod am ein Cynnig Aelodaeth Hanner Pris ym mis Ionawr
  • Casglu eich tystysgrif am gymryd rhan!

Bydd sesiwn briffio grŵp mawr (a llun grŵp hefyd) yn fuan ar ôl 10:00, ac wedyn casglu sbwriel tan tua 13:00 pan fydd angen dychwelyd yr holl sbwriel i'n lleoliad ni yn barod ar gyfer y pwyso mawr (a llun grŵp gyda'n casgliad ni o sbwriel ar y diwedd wrth gwrs). Ond i'r rhai sy'n bwriadu dod am gyfnod byrrach, peidiwch â phoeni, fe fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael i'ch croesawu chi ar ôl y prif sesiwn briffio hefyd.

Dewch â'ch menig eich hun os oes gennych chi rai, gan na fydd gennym ni ddigon i'w benthyca i bawb. Bydd digon o offer casglu sbwriel a bagiau bin yn cael eu darparu.

Parcio am ddim ym Porth Tyn Tywyn i unrhyw un sydd yn mynychu’r digwyddiad rhwng 10:00 a 14:00. Casglwch eich tocyn parcio gan aelod o staff YNGC ar y diwrnod (diolch i Stad Bodorgan am eu caniatâd ar gyfer hyn).

Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu gan werthwr lleol (felly dewch â chwpan y mae posib ei ailddefnyddio ac ychydig o arian!)

Bwcio

Pris / rhodd

Rhad ac am ddim, ond cofrestrwch i fynychu.

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru, byddwn yn defnyddio hwn i gyfleu unrhyw newidiadau neu wybodaeth bwysig

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â'ch menig eich hun os oes gennych chi rai, gan na fydd gennym ni ddigon i'w benthyca i bawb. Bydd digon o offer casglu sbwriel a bagiau bin yn cael eu darparu. Os oes gennych chi declynnau casglu sbwriel a dalwyr bagiau mae croeso i chi ddefnyddio eich rhai eich hun hefyd.

Byddwch yn ymwybodol o ragolygon y tywydd a gwisgwch yn briodol.

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni