Pan fyddwch chi'n dychmygu neidr Brydeinig, efallai mai'r ddelwedd sy'n dod i'ch meddwl yw neidr y gwair werdd ac mae rheswm da dros hynny. Fel neidr fwyaf cyffredin y DU, maen nhw’n rhyw fath o eicon cefn gwlad. Ond er ei bod yn gymharol gyffredin, mae'n dal i fod yn un o'n creaduriaid mwyaf camddealledig.
Neidr frodorol fwyaf Prydain
Yn 2017 darganfuwyd bod nadroedd glaswellt oedd yn cael eu canfod yng Nghymru, Lloegr a rhannau o Ewrop yn enetig wahanol i'w cefndryd a’u cyfnitherod Ewropeaidd (Natrix natrix). Felly nawr maen nhw'n cael eu galw yn Natrix helvetica neu neidr y gwair resog, gan gyfeirio at y bariau du trawiadol sydd ar hyd eu hystlysau.
Ond beth bynnag rydych chi'n eu galw, maen nhw'n ddigamsyniol: Neidr frodorol fwyaf Prydain, hyd at 1.5 metr o hyd, mae ganddynt goler felen a du nodedig y tu ôl i'r pen. Maen nhw arfer yn wyrdd-llwyd ac mae oddi tanynt yn olau ac mae ganddynt streipiau tywyll ar hyd y corff, er eu bod yn amrywio'n fawr o ran lliw.