Cywion Gweilch y Pysgod wedi deor yn Llyn Brenig

Cywion Gweilch y Pysgod wedi deor yn Llyn Brenig

Newyddion cyffrous gan dîm Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig wrth i ni groesawu dyfodiad nid un, ond dau gyw!

Mae wedi bod yn gyfnod pryderus o aros i'n selogion gweilch y pysgod ni yn Llyn Brenig, ers i LJ2 adennill ei safle ar y nyth ochr yn ochr â'r fenyw (372) yn ôl ym mis Ebrill gyda wyau newydd yn cael eu dodwy.

Ond diolch byth, cafwyd ychydig wythnosau tawel iawn wedyn, gyda'r ddau aderyn yn addasu i'w trefn newydd (yn wahanol i barau magu nodweddiadol, LJ2 wnaeth y rhan fwyaf o'r deor a 372 y rhan fwyaf o'r pysgota). Aeth popeth yn union yn ôl y cynllun i'n pâr 'modern' iawn ni o weilch y pysgod, ac ar 2il Mehefin roedd ein gwirfoddolwyr ni wrth eu bodd yn gweld yr ŵy cyntaf yn deor, ac yn fuan wedyn, yr ail ŵy ar 5ed Mehefin. Mae'r cywion yn ffynnu bellach, gyda'r ddau riant yn dod â digon o bysgod i mewn, felly nawr rydyn ni’n aros ac yn eu gwylio nhw'n tyfu; wrth ragweld eu siwrnai hir i Orllewin Affrica a fydd, yn anhygoel, yn dechrau ymhen ychydig fisoedd yn unig.

Gan fod cywion yn y nyth a llawer o bysgod yn cael eu dal nawr, does dim amser gwell i ddod i'n llecyn gwylio ni; i gwrdd â'n harbenigwyr a gweld y nyth drosoch chi’ch hun drwy ein sgopau a'n sbienddrych.

Dysgwch fwy a chynlluniwch eich ymweliad yma