Y Llwybr Coch: Y cyhoedd yn dangos cefnogaeth i ymgyrch i achub bywyd gwyllt gwerthfawr yn Sir y Fflint

Y Llwybr Coch: Y cyhoedd yn dangos cefnogaeth i ymgyrch i achub bywyd gwyllt gwerthfawr yn Sir y Fflint

Mae mwy na 1,300 o bobl wedi cefnogi ein hymgyrch ni yn ddiweddar i gael gwared ar y 'Llwybr Coch' fel 'dyhead' yn nrafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Bydd y cyflwyniadau hyn yn sail i Adroddiad Ymgynghori sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd ar gyfer Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru (NWCJC), sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol terfynol.

Byddai'r cynnig priffordd 'Llwybr Coch' 13km yng Ngogledd Ddwyrain Cymru (Coridor yr A494/A55/Sir y Fflint) yn dinistrio coetiroedd hynafol, dolydd blodau gwyllt, a gwrychoedd canrifoedd oed, gan beryglu rhywogaethau fel dyfrgwn, ystlumod, tylluanod gwynion a moch daear. Pe bai'r datblygiad yma'n mynd rhagddo, hwn fyddai'r cynnig priffordd newydd mwyaf o bell ffordd yng Nghymru gyfan, a'r un mwyaf niweidiol o bosibl.

Nod Cydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yw cael Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi. Gobeithiwn yn fawr ei fod wedi nodi'r sylwadau a gyflwynwyd gennym ni a'r cyhoedd, ac na fydd y Llwybr Coch yn cael ei gynnwys yn y fersiwn derfynol; mae dyhead o'r fath ymhell y tu hwnt i gylch gwaith y Cynllun ac yn gwbl groes i bwrpas y Cynllun. Mae hefyd yn groes i bolisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Adrian Lloyd Jones, Rheolwr Tirwedd Byw
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru