Gall canolbwyntio ar ddefnyddio ein synhwyrau ym myd natur ein helpu ni i gynnal ffocws, cael gwared ar bethau sy'n tynnu ein sylw ni a chysylltu â'r byd naturiol. Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer creu profiad synhwyraidd ym myd natur! Rhowch gynnig ar un ohonyn nhw, rhai ohonyn nhw neu bob un ohonyn nhw – chi sydd i ddewis.
Defnyddio eich synhwyrau i gysylltu â byd natur
Gwrando
Sefwch y tu allan yn eich gardd, gofod gwyrdd lleol neu ardal wyllt a gwrando. Beth allwch chi ei glywed? Sylwch ar yr holl synau o'ch cwmpas chi. Efallai y byddwch chi eisiau cau eich llygaid i ganolbwyntio’n well. Allwch chi glywed...
...y gwynt yn chwythu?
...dail yn siffrwd ar y coed?
...adar yn canu?
...gwenyn yn suo o flodyn i flodyn?
...dŵr yn llifo?

David Tipling/2020VISION
Cyffwrdd
Mae cymaint o weadau ym myd natur! Canolbwyntiwch ar un o'r awgrymiadau, neu rhowch gynnig arnyn nhw i gyd os oes gennych chi fwy o amser. Rhowch gynnig ar...
...teimlo'r rhisgl ar goeden
...rhedeg eich llaw dros garreg gron lefn
...teimlo dŵr oer yn diferu drwy eich bysedd
...teimlo gwahanol ddail a sylwi ar eu gwahanol weadau
...cyffwrdd yn ysgafn â mwsogl a sylwi pa mor sbyngaidd ydi o

Matthew Roberts
Arogli
Mae cymaint o arogleuon cyfoethog, bywiog ym myd natur. Beth am geisio arogli...
...glaswellt newydd ei dorri
...amrywiaeth o wahanol flodau, gan sylwi ar y gwahaniaethau rhyngddyn nhw
...perlysiau, fel lafant a rhosmari
...awyr y môr
...os ydych chi'n ddewr, poblogaeth o adar môr!

Woman smelling a flower © Matthew Roberts
Gweld
Ble bynnag ydych chi, boed yng nghanol dinas, yng nghefn gwlad, neu wrth y môr, mae bywyd gwyllt i'w weld bob amser os edrychwch chi’n ddigon manwl. Heriwch eich hun i ddod o hyd i’r rhain...
...bywyd gwyllt tanddwr - edrychwch mewn pwll, allwch chi weld malwod neu chwilod plymio jyst o dan yr wyneb?
...gwenyn yn chwilio am baill ar flodyn
...morgrug ar orymdaith i chwilio am fwyd
...adar yn hedfan uwchben
...mwsogl a rhedyn yn tyfu allan o waliau

Nick Upton - Nick Upton/2020VISION
Blasu
Dewch â'r gwyllt y tu mewn drwy ychwanegu gwahanol berlysiau at eich coginio! Mae perlysiau'n wych i ni, ond hefyd yn wych i fywyd gwyllt oherwydd bod eu blodau'n bwysig i bryfed peillio. Does dim angen ardal fawr i'w tyfu nhw - bydd potiau ar batio yn gweithio’n iawn!

Shropshire Wildlife Trust Wildlife Gardening Event July 2024 - Gavin Dickson
