Codwch arian i ni a helpu i adfer byd natur yng Ngogledd Cymru
Os ydych chi ffansi cynnal stondin gacennau neu blanhigion; cwblhau taith gerdded, nofio neu ganŵio noddedig neu ddim ond enwebu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel yr elusen o’ch dewis ar gyfer ffair leol neu garnifal, bydd pob ceiniog fyddwch chi’n ei chodi’n mynd tuag at warchod bywyd gwyllt a llefydd gwyllt ledled Gogledd Cymru.
Does dim rhaid i chi ddweud wrthym ni os ydych chi’n codi arian i ni, ond byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Fe allwn ni ddarparu ffurflenni nawdd; tudalennau codi arian ar ein gwefan ni neu gyngor am greu eich tudalen eich hun; a’ch helpu chi i hyrwyddo beth rydych chi’n ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd eisiau ac yn dewis codi arian i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – rydych chi i gyd yn anhygoel!
Pan fyddwch chi'n codi arian i ni, gallwch fod yn sicr bod unrhyw beth rydych chi'n ei godi’n cefnogi elusen annibynnol, leol sydd â chenhadaeth i ddod â bywyd gwyllt yn ôl, i rymuso pobl i weithredu dros fyd natur, ac i greu cymdeithas lle mae natur yn bwysig. Rydyn ni mor falch eich bod chi wedi penderfynu ein helpu ni i wneud i hynny ddigwydd.
Cymryd rhan mewn her Always Aim High
Yn 2026, rydyn ni'n falch o fod yn bartner elusennol ar gyfer tri digwyddiad Always Aim High gwych yn rhai o leoliadau harddaf ein hardal. Os ydych chi'n athletwr profiadol neu'n rhedwr am y tro cyntaf, mae gwahoddiad i chi gymryd rhan yn Llwybr Eryri ar 11/12 Gorffennaf a Llwybr Ynys Môn ar 1 Tachwedd, a gall beicwyr gymryd rhan yn y Tour de Môn enwog ar 23 Awst. Mae gan bob digwyddiad amrywiaeth o bellteroedd i ddewis ohonyn nhw, ac mae pob un yn gyfle gwych i chi herio'ch hun wrth wneud byd o wahaniaeth i fywyd gwyllt lleol.
Yn fwy na hynny, cefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n cael y cyfle cyntaf i sicrhau ein tocynnau gostyngiad arbennig! Am bopeth fyddwch chi'n ei wneud i godi arian i ni wrth hyfforddi ar gyfer yr her o'ch dewis a chymryd rhan ynddi, gallwn gynnig gostyngiadau o hyd at 58% i chi ar ffioedd cofrestru safonol. Mae’r targedau codi arian sy’n cael eu hawgrymu wedi'u cynnwys, ond chi sydd i benderfynu faint rydych chi'n ei godi. Fe fyddwn ni’n ddiolchgar beth bynnag fydd y swm.
Dyma rai pethau allweddol i feddwl amdanynt er mwyn rhoi cychwyn i chi:
- Pa fath o weithgaredd neu ddigwyddiad yr hoffech ei wneud. Edrychwch ar rai o’r syniadau codi arian yn y canllaw am ysbrydoliaeth!
- Pryd rydych chi’n bwriadu ei wneud – a fydd yn digwydd ar un diwrnod neu dros wythnos gyfan? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dewis dyddiad ymhell ymlaen llaw fel eich bod yn gallu rhoi gwybod i bawb amdano!
- Ble fydd yn digwydd
- Pwy fyddwch chi’n eu gwahodd i wylio, i gymryd rhan, neu i’ch noddi
- Os yw eich gweithgaredd yn yr awyr agored, bydd angen i chi wirio’r tywydd a phenderfynu a fydd yn effeithio ar eich cynlluniau.
Gallwch ddarllen mwy am sut i hyrwyddo eich digwyddiad codi arian, yn ogystal â sut i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel, yn ein canllaw codi arian!
Sefydlu tudalen codi arian pen-blwydd ar Facebook
- Ewch i dudalen codi arian Facebook
- Cliciwch ar "Dewis Elusen" – rydyn ni wedi ein rhestru fel Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
- Dewiswch faint rydych chi eisiau ei godi
- Penderfynwch pryd yr hoffech i'ch digwyddiad codi arian ddod i ben
- Gallwch olygu'r testun neu'r llun - ac yna cliciwch "Creu"!
Cod Ymarfer Codi Arian
Fel sefydliad sydd wedi cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian ac sy’n falch o ddilyn y Cod Ymarfer Codi Arian, mae’n bwysig i ni dynnu eich sylw at y datganiad canlynol: “Mae unrhyw un sy’n gwirfoddoli i godi arian i gefnogi ein gwaith yn gwneud hynny ‘er budd’ yn hytrach nag 'ar ran' Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oni bai yr awdurdodir yn benodol fel arall, a rhaid osgoi creu unrhyw argraff i'r gwrthwyneb. (Y diffiniad technegol o ‘er budd’ yw ‘gwirfoddolwr sy’n codi arian naill ai ar ei ben ei hun neu gydag eraill ar gyfer sefydliad elusennol yn annibynnol ar y sefydliad elusennol’; yn hytrach nag ‘ar ran’, a ddiffinnir fel ‘Gwirfoddolwr sy’n gweithio gyda ac sydd o dan gyfarwyddyd sefydliad elusennol i godi arian ar ei ran ac yn ei enw.’) Mae hyn hefyd yn golygu, er y byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i helpu i hyrwyddo ymdrechion codi arian unigolyn, bod angen i godwyr arian fod yn gyfrifol am drefnu pob agwedd ar eu codi arian a deall na fydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd yn ymwneud ag ef.”
Mae mwy o gyd-destun ar gael yma.