Tynnu, Torri, Pentyrru!

Tynnu, Torri, Pentyrru!

©GBNNSS

Efallai ei fod yn edrych yn dlws, ond ar ôl sefydlu, mae Ffromlys Chwarennog yn gallu gwneud difrod sylweddol i lannau ein hafonydd ni a'r rhywogaethau sy'n dibynnu arnyn nhw. Fe allwch chi helpu i stopio cyflwyno a lledaenu’r rhywogaeth estron ymledol yma. Defnyddiwch ein canllaw syml isod:


Himalayan balsam seeds

© NWWT

Cyn: gwnewch yn siŵr nad yw wedi mynd i had. Dim ond helpu i ledaenu’r hadau ymhellach fydd tynnu ar y pwynt yma’n ei wneud.

Severn Trent Balsam Bash

© NWWT

Tynnwch y gwreiddiau allan o'r ddaear drwy ddal y coesyn mor agos at y ddaear â phosib fel nad yw'n torri. Mae planhigyn Ffromlys Chwarennog yn gallu aildyfu os yw'r gwreiddiau'n dal i fod yn y ddaear!

Balsam root

© RPS Group Plc

Torrwch y coesyn mor agos at y gwreiddyn â phosib, gan wneud yn siŵr ei fod o dan y nod cyntaf (cymalau tebyg i ben-glin y mae'r dail yn tyfu allan ohonyn nhw).

Balsam bounce

© Lesley James

Ar ôl i'r planhigion gael eu torri, rhowch nhw mewn pentwr a'u gadael i bydru.

Check Clean Dry

Ar ôl: gwnewch yn siŵr, os ydych chi'n cerdded yn unrhyw le lle mae rhywogaethau estron ymledol, eich bod yn gwirio eich esgidiau, eich dillad a’ch offer am unrhyw ddarnau o blanhigion, gan lanhau popeth cyn mynd adref, a sychu popeth yn llwyr cyn eu defnyddio eto.

Eisiau gwneud mwy? Mae Prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru yn chwilio bob amser am wirfoddolwyr i gynorthwyo ein tîm ymroddedig ni. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/waren

Himalayan balsam in flower

© NWWT

Himalayan balsam

Species information