Ymgynghoriad cyhoeddus ar newid enw Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen

Ymgynghoriad cyhoeddus ar newid enw Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen

***Ymgynghoriad bellach wedi cau*** Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ystyried newid enw ein gwarchodfa natur ni ger Tal y Bont, Bangor o 'Spinnies Aberogwen' i 'Llyn Celanedd'. Hoffem ymgynghori â defnyddwyr lleol, trigolion a'n haelodau yn ehangach cyn gwneud penderfyniad. Cyflwynwch eich ymateb, gan ddefnyddio'r ffurflen we isod, erbyn dydd Mercher 6ed Awst.

Y camau nesaf: Mae'r ymgynghoriad bellach ar gau. Bydd ein hymddiriedolwyr ni’n trafod y safbwyntiau ym mis Awst, ac wedyn, os yw newid enw yn edrych yn briodol, byddwn yn darparu'r enw a'r ymchwil i Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg i'w hystyried.

Os hoffech gael eich diweddaru gyda chanlyniadau'r ymgynghoriad, a chyda'n holl newyddion natur, digwyddiadau bywyd gwyllt a chynigion arbennig gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yna cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr Wythnos Wyllt.

Pam rydym yn ystyried newid yr enw? 

Mae gwybodaeth hanesyddol wedi dod i'n sylw ni, gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer newid yr enw o 'Spinnies Aberogwen' i 'Llyn Celanedd'.

Mae ymchwil yn dangos bod gan y safle hanes rhyfeddol sy'n cynnwys aristocratiaid Cymru, claddedigaethau cysegredig, afon yn newid ei llwybr, ac enw coll sydd bellach wedi'i ailddarganfod. Darllenwch yr ymchwil yn llawn yma.

Polisi'r Ymddiriedolaeth yw “Lle mae gan eiddo enw Saesneg, bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i bennu a defnyddio ei enw Cymraeg”. Rydym yn falch o fod wedi ein gwreiddio yn ein hardal leol, ac adlewyrchu'r diwylliant, y ddaearyddiaeth a'r bywyd gwyllt sy'n gwneud Gogledd Cymru mor arbennig. Rydym yn cefnogi'r syniad o adfywio enwau lleoedd Cymru, ac yn cofleidio'n llawn y berthynas agos rhwng pobl a'u hamgylchedd lleol.

Am y warchodfa: 
Mae Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen, fel mae’n cael ei galw ar hyn o bryd, yn cynnwys cyfres o fôr-lynnoedd a chynefinoedd cyfagos sy'n darparu lloches a bwyd i adar gwyllt, adar rhydio ac adar llai, yn enwedig yn ystod mudo'r hydref a'r gwanwyn.

Mae'r warchodfa wrth ymyl aber Afon Ogwen a'r gwastadeddau llaid llanwol sy’n cael eu hadnabod fel Traeth Lafan, ac mae’r llanw a’r trai cyson yn denu rhai rhywogaethau anhygoel gan gynnwys, ar achlysuron prin, gwalch y pysgod. Mae clystyrau tal, gosgeiddig o gyrs yn darparu safleoedd nythu cysgodol i ieir dŵr yn ogystal â lle ardderchog i wylio’r crëyr glas a’r crëyr bach yn hela! Am lawer o'r flwyddyn, mae'r glas y dorlan lliwgar yn olygfa gyfarwydd a phoblogaidd yma wrth iddo glwydo o amgylch y warchodfa a phlymio i'r dŵr i chwilio am ysglyfaeth. Mae’r cuddfannau adar a’r teclynnau bwydo’n darparu cyfleoedd gwych i fwynhau'r bywyd gwyllt gerllaw.