Difyr drwy’r amser …

Difyr drwy’r amser …

Heron with an eel at Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Steve Ransome

Ydych chi wedi bod yng Warchodfa Natur Spinnies Aberogwen yn ddiweddar? Os nad ydych chi, dyma amser gwych i ymweld!

Mae’r warchodfa natur fechan, hardd yma ar gyrion Stad Castell Penrhyn, yn edrych draw dros Afon Menai. Mae’n cynnwys coetir a llennyrch o laswellt o amgylch tri môr-lyn. Yn allweddol, mae lefel yr halen yn y môr-lynnoedd yn amrywio; mae’r warchodfa’n cael ei bwydo gan ddŵr croyw o’r mynyddoedd ond mae dŵr halen o ochr yr aber yn cael ei ychwanegu ato hefyd. Mae’r ffaith bod yr halltedd yn newid yn raddol yn creu newid diddorol mewn cynefinoedd ar draws y system hefyd – gan gynnal infertebrata dŵr croyw yn y ‘top’ a chrancod a llysywod yn y ‘gwaelod’.

One of the large pools at Spinnies Aberogwen nature reserve, in autumn. The trees and reeds surrounding the pool are all shades of yellow and brown, and are reflected in the waters surface. In the distance some of the mountains of Eryri (Snowdonia) are visible through the trees.

Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Bethan Vaughan Davies

Efallai bod gwarchodfa Spinnies Aberogwen yn fwy nodedig am ei hadar a’i chuddfannau gwylio. Dylai ychydig oriau o archwilio’r tri chuddfan ar y safle fod yn gyfle i chi weld adar cyffredin a llai cyffredin yr ardd ar declynnau bwydo; hwyaid gwyllt, crehyrod bach, ieir dŵr a rhegennod dŵr yn trochi a stelcian yn y môr-lynnoedd a’r cawn; ac elyrch dof, gylfinirod, piod môr a chrehyrod glas ar yr aber. Mae yma hefyd las y dorlan lled-breswyl ac eiconig – yr aderyn sy’n cael tynnu ei lun amlaf (ar wahan i weilch y pysgod) yng Ngogledd Cymru!

Agorwyd y trydydd cuddfan – a adeiladwyd diolch i rodd ardderchog gan un o’r wardeiniaid gwirfoddol, Steve – yn swyddogol gan Iolo Williams ar 21 Mehefin. Gwnaed y gwaith gan Fred Kehoe o Kehoe Countryside – un o Bartneriaid Natur yr Ymddiriedolaeth Natur a chefnogwyr tymor hir hael. Mae’r adeilad o ganlyniad yn llafur cariad yng ngwir ystyr y gair. Mae’r fframwaith o ffynonellau lleol i gyd wedi’i greu o ffynidwydd Douglas a’r cladin o dderw, gyda’r holl goed wedi’u torri a’u sychu gan Fred. Mae’r strwythur cyfan yn sefyll ar goesau o blastig wedi’i ailgylchu er mwyn sicrhau ei hirhoedledd mewn tywydd gwlyb.

Beth am ddod i weld y warchodfa eich hun? Os byddwch yn mwynhau eich ymweliad, efallai y byddwch eisiau chwarae mwy o ran hyd yn oed – mae criw o wirfoddolwyr brwd yn cyfarfod yma unwaith y mis i gwblhau tasgau amrywiol yn y warchodfa ac maen nhw’n gwbl hanfodol i’w dyfodol yn y tymor hir. Os ydych chi’n awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â katy.haines@northwaleswildlifetrust.org.uk i ddechrau.