Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr

Gwaith Powdwr

© Ian Roberts

Gwaith Powdwr Nature Reserve

Gwaith Powdwr Nature Reserve

Gwaith Powdwr_pond

© Damien Hughes

Redstart

Redstart © Mark Hamblin 2020VISION

A small brown bat with large rounded ears, at least a third of it's body length, and wings spread wide as it leaps from the tree on the left side of frame. The background is pitch black as it is night, with a few branches of green leaves coming in from the left where the tree is.

Brown long-eared bat © Hugh Clark

A large orange-red bracket fungi, that grows in flat layers like a shelf. It sits high up on a large oak tree.

Chicken of the woods fungi © Steve Waterhouse

nightjar

nightjar_David Tipling2020Vision

Gwaith Powdwr_railway bridge

© Damien Hughes

Gwarchodfa natur ôl-ddiwydiannol ragorol gyda hanes ffrwydrol.

Location

Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LT

OS Map Reference

SH621389
OS Explorer Map OL18
A static map of Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr

Know before you go

Maint
24 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Un ai ar yr stad ddiwydianol ei hun, neu wrth ymyl y pont dros yr afon Dwyryd

Anifeiliaid pori

Defaid drwy gydol y flwyddyn.

Mynediad

Mae traciau ar y rhan fwyaf o’r safle ac maent yn hwylus i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn, ac mae ymwelwyr anabl yn gallu mynd â’u cerbydau ar y safle hefyd, drwy drefniant ymlaen llaw: ffoniwch y Brif Swyddfa am fwy o fanylion. Fodd bynnag, mae traciau’r ucheldir yn arw a serth ac mae stepiau arnynt. Byddwch yn ofalus wrth ardaloedd o ddŵr agored – maen nhw’n ddyfnach nag y maen nhw’n edrych yn aml. 

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Trwy gydol y flwyddyn

Am dan y warchodfa

Gorffennol ffrwydrol, dyfodol gwyllt

Rhwng 1865 ac 1995, roedd y gornel hon o Orllewin Cymru’n fyd-enwog am ei harbenigedd mewn ffrwydron. Roedd y lleoliad anghysbell a’r cymoedd naturiol â’u hochrau serth yn lleoliad perffaith ar gyfer ffatri arbenigol a oedd, yn ei hanterth, yn cyflogi mwy na 500 o bobl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynhyrchwyd mwy nag 17 miliwn o grenadau ar y safle yma! Daeth yr Ymddiriedolaeth Natur yn berchen ar y safle pan gafodd ei ddatgomisiynu – ers hynny, natur sydd wedi ffrwydro yma …

Heddiw, wrth grwydro drwy’r gymysgedd hyfryd o gynefinoedd a syllu ar y golygfeydd godidog, mae’n anodd dychmygu hanes diwydiannol y safle. Mae’r coetir yn gartref i nythod y tingoch, y gwybedog brith a chorhedydd y waun ac ar ddiwrnod o haf, mae’r llennyrch glaswellt yn llefydd gwych i weld glöynnod byw a blodau gwyllt. Mae’r rhostir ar y tir uwch yn fan cuddio i’r troellwr cyfrinachol ac i ymlusgiaid yn torheulo: mae pedwar allan o’r chwe rhywogaeth o ymlusgiaid yn y DU i’w gweld yma. Mae gorffennol diwydiannol y safle wedi darparu cynefinoedd perffaith ar gyfer ei drigolion mwyaf arwyddocaol, ystlumod pedol lleiaf, sy’n gwneud eu cartref yn yr hen adeiladau a thwnelau.

Oeddech chi’n gwybod?

Yr Ystlum Pedol Lleiaf yw un o rywogaethau lleiaf y DU – wrth glwydo, mae’n lapio ei adenydd am ei gorff ac mae tua’r un maint ag eirinen! Mae’n ffyslyd iawn hefyd, gan ffafrio clwydo mewn adeiladau o frics neu gerrig gyda thoeau llechi. 

Cyfarwyddiadau

Dilynwch y ffordd allan o Benrhyndeudraeth am Bont Briwet (y bont dros Afon Dwyryd am Harlech). Dilynwch y ffordd gyntaf i Stad Ddiwydiannol Cooke, gan ei dilyn am tua 80m at giatiau’r warchodfa. Mae posib parcio yma (SH 616 388) neu ymhellach i lawr y ffordd tuag at Bont Briwet (SH 618 384)

Contact us

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

©NWWT

Redstart

Redstart © Mark Hamblin 2020VISION

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho
Gwaith Powdwr Nature Reserve

Gwaith Powdwr Nature Reserve

A man in warm winter clothing on the left, in the middle of hammering a nail on the bottom of a bird box to the right, to attach it to the tree. The bird box has a simple round hole in the front, weather proof roofing on the lid and a latch on the left side to hold the lid. The tree it is being attached to is no thicker than the box, and in a small group of other similar trees, all covered with mosses and other vegetation growing on them.

Volunteer putting up a nest box © NWWT Katy Haines

Support us

Join today!

Young woman birdwatching at Rutland Water
From £3.00 a month

Aelodaeth unigol / Individual

Aelodaeth unigol ar gyfer un person
Couples membership
From £3.50 a month

Cyd-aelodaeth / Joint

Aelodaeth ar y cyd i ddau berson
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.
From £4.00 a month

Aelodaeth deuluol / Family

Aelodaeth deuluol gydag ychwanegiadau i blant