‘Ward Mamolaeth Gwaith Powdwr!’

‘Ward Mamolaeth Gwaith Powdwr!’

Lesser horseshoe with young at Gwaith Powdwr nature reserve (c) Rob Booth

Cadarnhau clwyd mamolaeth newydd i ystlumod pedol lleiaf yng ngwarchodfa natur Gwaith Powdwr, yr hen ffatri ffrwydron ger Penrhyndeudraeth, am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Trosglwyddwyd y gwaith o reoli gwarchodfa natur Gwaith Powdwr ger Penrhyndeudraeth i ddwylo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan ICI yn 1998. Wedyn cafodd yr hen ffatri ffrwydron yma, a chwaraeodd ran bwysig yn y ddau ryfel byd, ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 2004 oherwydd presenoldeb clwydi ystlumod pedol lleiaf yn yr adeiladau, y cysgodfannau i fomiau a’r twnelau oedd dal yno ar ôl datgomisiynu.                        

Mae arolygon rheolaidd ers hynny wedi dangos bod y safle’n bwysig i ystlumod sy’n gaeafgysgu, yn chwilio am fwyd ac yn cymudo i ac o glwydi eraill, ac i ymddygiad cymdeithasol, ond nid oedd clwyd mamolaeth yma i’r benywod ddod at ei gilydd i eni eu rhai bach yn yr haf.               

Mae darparu amodau addas ar gyfer clwyd mamolaeth wedi bod yn flaenoriaeth i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers gofalu am y warchodfa, ac nid yw hon yn dasg hawdd i rywogaeth sy’n gallu bod yn eithaf ffyslyd o ran tymheredd, closrwydd a gofynion cynefin cyffredinol!

Yr haf yma, gyda help y cyfnod hir o dywydd poeth ym mis Mehefin siŵr o fod, cofnodwyd pedwar ystlum pedol lleiaf gydag un ystlum bach am y tro cyntaf yn yr hen sied storio ffrwydron gafodd do newydd yn ôl yn 2015. Mae’n bosib bod yr ystlumod yma wedi dod o glwyd mamolaeth arall ar ôl i rywun darfu arnynt. Fodd bynnag, y gobaith ydi y byddant yn dod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn nawr i chwyddo poblogaeth y warchodfa natur ôl-ddiwydiannol ryfeddol yma ... cadwch lygad yma am fwy o newyddion!

New slate roof at Gwaith Powdwr nature reserve (c) Rob Booth

New slate roof at Gwaith Powdwr nature reserve (c) Rob Booth

Beth am ymuno â ni yn fuan ar daith dywys i weld ystlumod, i ddarganfod byd rhyfeddol yr ystlum drosoch chi eich hun? Mae’r daith nesaf yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8 Medi.

 

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’n bwysig nodi bod poblogaethau o ystlumod yn hynod symudol gan ddibynnu ar yr amser o’r flwyddyn, heb aros ar un glwyd drwy gydol y flwyddyn. Efallai mai dim ond am 4 i 8 wythnos yn ystod yr haf fydd clwyd mamolaeth yn cael ei ddefnyddio a’r unig dystiolaeth weladwy fydd tail ar adegau eraill o’r flwyddyn. Felly, cofiwch ein ffonio ni (neu’r Bat Conservation Trust) am gyngor os ydych chi’n ystyried gwneud gwaith adeiladu neu’n poeni bod bygythiad i glwydi ystlumod. Mae posib cymryd camau syml a rhad i sicrhau nad oes neb yn tarfu ar ystlumod, e.e. drwy wneud y gwaith ar amser addas o’r flwyddyn.

Sylwer mai dim ond ecolegwyr ystlumod trwyddedig sydd â chaniatâd cyfreithiol i fynd at glwydi ystlumod                                 

Lesser horseshoe with young at Gwaith Powdwr nature reserve

Lesser horseshoe with young at Gwaith Powdwr nature reserve (c) Rob Booth