Môr-wenoliaid pigddu’n hwyr yn cyrraedd Cemlyn!

Terns at Cemlyn Nature Reserve

Dim ots pa mor dda da chi’n meddwl eich bod yn adnabod lleoliad a’r bywyd gwyllt uno, mae yna wastad rhywbeth annisgwyl yn troi fyny! Eleni, cawsom brofiad o hyn gyda’r môr-wennoliaid yn cadw ni’n dyfalu/pendroni. Yma mae Alison Brown, Swyddog Ymrwymo Prosiect LIFE y Môr-wennol wridog yn rhoi diweddariad ar y newidiadau anhygoel yn anffawd cytref môr-wennoliaid Cemlyn.

Fe ddywedodd rhywun ryw dro ‘os prynwch chi boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu a chreu gwarchodfa natur ... mae’n bur debyg y byddan nhw’n talu’n ôl i chi’r flwyddyn ganlynol drwy nythu yn rhywle arall’. Roedd Rob Hume yn llygad ei le. Rhwng 2012 a 2016, roedd poblogaeth fagu’r Môr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn yn 2400 o barau o oedolion ar gyfartaledd, gan fagu bron i 1000 o gywion bob blwyddyn. Môr-wenoliaid Cemlyn yw, neu oedd, 20% o boblogaeth y DU o Fôr-wenoliaid Pigddu, a 3% o holl boblogaeth y byd. Hefyd hon oedd yr unig boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghymru. Y gwanwyn yma, roedd Cemlyn yn gymharol dawel ac roedd y gri uchel, ansoniarus, ‘ERIC’, sy’n arfer cyhoeddi dyfodiad yr haf yng ngogledd Ynys Môn, yn dawelach nag arfer. Beth oedd wedi digwydd? 

Ymwelwch â Gwarchodfa Natur Cemlyn i weld y môr-wennoliaid

Môr-wenoliaid Pigddu yw’r rhywogaeth fwyaf a thrymaf o’r rhywogaethau magu Prydeinig o fôr-wenoliaid ond, er gwaethaf eu maint, maent yn gymharol ddiniwed wrth amddiffyn eu nythod ac yn ymateb yn ddwys i aflonyddwch, ysglyfaethwyr ac, yn ôl pob tebyg i’r llygaid dynol, mympwy llwyr.

Yn 2017, cododd twf cyflym y boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn bryderon y byddai cystadleuaeth am ofod nythu yn erbyn rhywogaethau eraill Cemlyn o fôr-wenoliaid.  Gosodwyd rafftiau artiffisial yn eu lle ar fôr-lyn Cemlyn fel lle ychwanegol ar gyfer safleoedd nythu unrhyw Fôr-wenoliaid Cyffredin neu Fôr-wenoliaid y Gogledd oedd yn colli’u lle i’w cefndryd mwy. Ond, fel y digwyddodd pethau, nid oedd angen y safleoedd nythu ychwanegol. Yn ystod haf 2017, ni fu unrhyw nythu gan y Môr-wenoliaid Pigddu a’r rheswm (pennaf) am hynny oedd ysglyfaethwyr, teulu o ddyfrgwn yn tarfu arnyn nhw, a tharfu o fath arall. Roedd rhywogaethau eraill yn ychwanegu at y tarfu. Ni lwyddodd y Môr-wenoliaid Pigddu i fagu ac erbyn dechrau mis Mehefin 2017, roeddent i gyd wedi gadael Cemlyn a gogledd Ynys Môn heb fagu cywion.          

Mae Cemlyn yn rhan o rwydwaith Ewropeaidd o safleoedd ar gyfer cynefinoedd adar a bywyd gwyllt; rhwydwaith Natura 2000. Mae gan bob un o’r safleoedd hyn gynllun rheoli pwrpasol i warchod, cadw a chreu cadernid ar gyfer bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol. Ar gyfer Cemlyn, mae’r cynllun rheoli statudol yn cynnwys nodau penodol o ran darparu cynefin nythu i fôr-wenoliaid, os ydynt yn bresennol ai peidio. Yn unol â’r cynllun rheoli yma a’r nodau rhyngwladol tymor hir ar gyfer gwarchod a rheoli môr-wenoliaid, yn gynnar yn 2018, aeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ati i weithredu sawl prosiect, gan gynnwys creu gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, gwarchod y cynefinoedd nythu rhag ysglyfaethwyr, a rheolaeth heb ladd ar ysglyfaethwyr. Cyllidwyd y gwaith yma drwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a’r prosiect ‘gwella rhagolygon cadwraeth y rhywogaeth flaenoriaeth, y Fôr-wennol Wridog, ledled ei hardaloedd yn y DU ac Iwerddon’.

Er gwaetha’r ymdrechion hyn, ac er i gynefin nythu newydd, diogel gael ei greu, mae 2018 wedi bod yn flwyddyn nodedig eto – ond am y rhesymau anghywir. Y gwanwyn yma, dychwelodd llawer llai o Fôr-wenoliaid Pigddu i Gemlyn nag yn 2017 ac nid oeddem yn siŵr i ble oedd yr adar eithriadol hardd yma a’u lleisiau sgrechllyd erchyll wedi mynd, ond cafodd Hodbarrow yn Cumbria ddechrau arbennig o dda i’r flwyddyn. Mae sawl ffactor yn gallu dylanwadu ar ddosbarthiad a llwyddiant magu môr-wenoliaid, ac yn sicr newid yn yr hinsawdd a’r tywydd o amgylch eu safleoedd magu yng ngogledd orllewin Ewrop, a hefyd eu tiriogaethau gaeafu yng Ngorllewin Affrica.

Tua diwedd gaeaf 2017/18 fe ddaeth yr hyn oedd yn cael ei alw’n ‘Fwystfil y Dwyrain’ ar ymweliad â ni – cyfnod estynedig o dywydd oer iawn ledled y DU. Er na fyddai’r oerni yma wedi cael effaith uniongyrchol ar y Môr-wenoliaid Pigddu a fyddai, ar y pryd, dal ar eu tiroedd gaeafu o amgylch arfordir Gorllewin Affrica, efallai bod yr oerni eithafol a gwyntoedd gogleddol a dwyreiniol cryf wedi effeithio ar eu mudo tua’r gogledd, a hefyd ar dymheredd y môr a dosbarthiad pysgod. Mae môr-wenoliaid sy’n cyrraedd y DU ar ôl siwrnai faith a llafurus yn dibynnu ar lysywod y tywod fel tanwydd i’w hadfywio cyn magu, i’w cyflwyno i’w cymar fel cymhelliant i baru ac, yn y pen draw, i fwydo eu cywion ifanc. Yng Ngwanwyn 2018, roedd y gwyntoedd gogledd ddwyreiniol yn parhau i reoli’r patrymau tywydd ac wedi sgyrsiau anffurfiol gyda physgotwyr môr a physgotwyr cychod siarter o amgylch arfordir Môn, clywsom am absenoldeb llysywod y tywod mewn ardaloedd arfordirol, yn ogystal â thymheredd anghyffredin o oer yn y dŵr ym misoedd Ebrill a Mai. Wrth i’r haf fynd yn ei flaen, daw llysywod y tywod a’r pysgod bach sy’n sail i ddeiet y môr-wenoliaid yn eu hôl. Er hynny, efallai y bydd yn rhy hwyr i annog niferoedd mawr o Fôr-wenoliaid Pigddu i setlo a magu yng Nghemlyn eleni.    

Mae’n wir bod tarfu gan ysglyfaethwyr yn 2017 wedi arwain mae’n bur debyg at y tair rhywogaeth o fôr-wenoliaid sy’n dod i Gemlyn yn gadael eu nythod. Er hynny, byddai’n simplistig awgrymu bod yr ysglyfaethwyr hyn wedi ‘achosi’ i’r Môr-wenoliaid Pigddu osgoi’r safle eleni. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol i atal ysglyfaethwyr ac mae’r wardeiniaid haf, Tim a Tarik, wedi dweud nad oes unrhyw ddyfrgwn wedi’u gweld ar ynysoedd y môr-lyn y Gwanwyn yma. Er gwaethaf anawsterau 2017, denodd Cemlyn Fôr-wenoliaid Pigddu, Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd. Ddechrau mis Mehefin, wrth gyfrif, roedd tua 300 o nythod Môr-wenoliaid Pigddu - 10% o gyfrif y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd dychweliad a phresenoldeb y môr-wenoliaid a’r gwylanod penddu yng Nghemlyn yn y gwanwyn yn rhoi sicrwydd i ni bod safle Cemlyn, gyda’i gynefin nythu newydd, gwell a ‘diogelach’, yn lle gwerth chweil i baru a magu cywion ifanc

Mae’r tywydd yn ystod 2018 wedi bod yn anodd ei ddarogan a dweud y lleiaf. Ar 14eg Mehefin, roedd arfordir gorllewin y DU yn nannedd Storm Hector ac wrth fynd ymhellach i’r gogledd ar y diwrnod hwnnw, roedd y gwynt yn cryfhau. Ar y 18fed a’r 19eg Mehefin, cyrhaeddodd tua 500 o Fôr-wenoliaid Pigddu i Gemlyn. Mae diwedd mis Mehefin wedi gweld tywydd anarferol tebyg, gyda thymheredd uchel iawn a dim glaw, yn enwedig yn y gogledd a’r gorllewin. Ar 30ain Mehefin, daeth tua 200 o Fôr-wenoliaid Pigddu ychwanegol i Gemlyn. Mae’r adar newydd yma’n golygu bod yr amcangyfrif cyffredinol ar gyfer y Môr-wenoliaid wedi codi i 1500 neu 1800 ac mae’n ymddangos bod llawer o’r hwyr-ddyfodiaid yn gwneud ymdrechion uchelgeisiol i fagu!   

Gwell hwyr na hwyrach!