Mae’r frwydr ymlaen i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Mae’r frwydr ymlaen i achub un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Afon Cynfal, Eryri © Rory Francis

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar fin cymeradwyo’r cynllun ddydd Mercher nesaf er bod ymgyrchwyr yn dadlau ei fod yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru i amddiffyn safleoedd bywyd gwyllt allweddol

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn Eryri yn rhybuddio bod un o raeadrau mwyaf eiconig y Parc Cenedlaethol, Rhaeadr y Cwm uwchben Llan Ffestiniog, dan fygythiad oherwydd cynllun trydan dŵr a fyddai, ar adegau, yn gweld bron i 70% o’r dŵr yn cael ei ddargyfeirio allan o’r rhaeadr i mewn i bibell blastig. Y pryder yw y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar ymddangosiad a sain daranllyd y rhaeadr, yn ogystal â newid yr amodau amgylcheddol yn sylfaenol. Mae’r ceunant yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a ddynodwyd oherwydd y rhywogaethau bregus y gellir eu gweld yno, gan gynnwys planhigion prin sy’n hoff o leithder. Gellir ei gyrraedd ar droed ar hyd lwybr hynafol, fel rhan o Lwybr Llechi Eryri ac nid yw’r argraffiadau cyntaf yn siomi.

Ar ôl i Senedd Cymru ddatgan Argyfwng Natur yn 2021, cryfhaodd Llywodraeth Cymru Bolisi Cynllunio yng Nghymru2 i egluro na ddylid cymeradwyo unrhyw ddatblygiad mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac eithrio mewn ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’. Nododd hefyd na fyddai hyn yn dderbyniol ond lle mae safbwynt cytunedig yn y cynllun datblygu yn nodi hyn. Fodd bynnag, mae’r Parc Cenedlaethol wedi dehongli hyn i olygu, os yw’r datblygiad ar gyfer ynni adnewyddadwy, yna mae hynny’n ei wneud o’n ‘hollol eithriadol’ ac felly y gall fynd yn ei flaen. Gallai hyn osod cynsail niweidiol i SoDdGA ledled Cymru.

Mae yna wrthwynebiad enfawr wedi bod i’r cynllun yn lleol ac yn ehangach ledled y wlad. Mae o leiaf 1,136 o bobl wedi gwrthwynebu’r cynllun yn ffurfiol. Mae hynny’n nifer enfawr o bobl i wrthwynebu un cais cynllunio3.

Mae clymblaid o bum grŵp amgylcheddol yn cydweithio i wrthwynebu’r cynllun hwn: Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Save our Rivers, Cymdeithas Eryri, Buglife, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Plantlife a Chyngor Mynydda Prydain. Gyda’i gilydd, mae’r grwpiau hyn yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn galw am i’r cynllun gael ei ‘alw i mewn’, fel y gall Gweinidogion Cymru ei benderfynu yn unol â pholisi.

Dywed Jane Barbrook, Is-gadeirydd Cymdeithas Eryri: “Ymddengys bod ‘na ddiffyg yma. Gallwch amddiffyn coeden hynafol neu dŷ hanesyddol, ond nid yw’n ymddangos eich bod yn gallu amddiffyn rhaeadr, o ran ei phriodweddau gweladwy a’i sŵn.”

Mae Rory Francis o Gymdeithas Eryri yn ychwanegu: “Yr eironi enfawr yma yw bod rhaeadr eiconig ac un o brif safleoedd bywyd gwyllt Cymru yn cael ei fygwth am swm eithaf dibwys o ynni adnewyddadwy. Dim ond 600kW yw capasiti’r cynllun. Mae hynny’n golygu y byddai angen dim llai na 12 cynllun fel hyn i gynhyrchu cymaint o bŵer ag un tyrbin gwynt modern sengl ar y tir, fel y rhai a gynigir yn Y Bryn, rhwng Maesteg a Phort Talbot, a phob un ohonynt yn 7.2MW. Yn sicr, mae angen i ni symud i sero net, ond wrth wneud hynny, ddylen ni ddilyn canllawiau cynllunio ac amddiffyn ein safleoedd a’n tirweddau bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr.”

  1. Mae Adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor Cynllunio a Mynediad ar gael ar-lein yma: https://eryri.gov.wales/wp-content/uploads/2026/01/Pwyllgor-Cynllunio-a-Mynediad-21.01.26-wefan.pdf
  2. Mae Polisi Cynllunio Cymru ar gael ar-lein yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2024-07/polisi-cynllunio-cymru-rhifyn-12.pdf
  3. Mae adroddiad y Swyddog yn rhoi’r ffigur o 453. Fodd bynnag, mae’r glymblaid yn erbyn y cynllun yn ymwybodol bod 1,135 o bobl wedi gwrthwynebu’n ffurfiol trwy wefan eu hymgyrch. Maent wedi trosglwyddo’r enwau a’r cyfeiriadau hyn a thestun llawn y llythyrau a ddanfonwyd at Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sydd wedi cytuno i gyfrif y rhain fel gwrthwynebiadau ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ddydd Mercher. Nid ydym yn gwybod achos y methiant hwn. Mae’n bosibl fod hyn yn ymwneud â mewnflwch yn gorlenwi neu hidlydd sbam. Roedd modd i’r glymblaid basio’r rhestr hon o enwau a chyfeiriadau i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, o dan reolau GDPR, gan fod yr holl unigolion dan sylw eisoes wedi cydsynio i’r rhain fynd i’r corff hwnnw.