Llygod medi’n dal eu tir

Llygod medi’n dal eu tir

Harvest mouse © Amy Lewis

Diolch i wirfoddolwyr, gwelwyd tystiolaeth o un o’n mamaliaid prinnaf ar safle ar Ynys Môn.

Trefnodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru arolwg ar nythod llygod medi yn Llanddona ddiwedd mis Ionawr, gyda help prosiect Cwlwm Seiriol, sy’n ceisio galluogi trigolion lleol i wella eu hamgylchedd naturiol a’u hiechyd drwy wneud gwaith cadwraeth.           

Er ei bod yn oer a barugog, daeth gwirfoddolwyr a oedd yn cynnwys pobl leol a myfyrwyr allan i arolygu ardal o rostir/glaswelltir gwlyb yn Rhos Llaniestyn, sef Gwarchodfa Natur Leol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ar ôl chwilio dyfal drwy gynefin twmpathog addas, cawsant eu gwobrwyo drwy ddarganfod gweddillion nyth llygoden fedi.       

Rowan Foods tree planting - Wrexham Industrial Estate

© NWWT

Mae llygod medi’n creu nythod magu a nythod gaeaf – wedi’u plethu’n gywrain allan o ddail a glaswellt byw. Nid yw’r nythod, sy’n gallu bod yn gartref i nythaid lawn o lygod bach, yn fwy na maint pêl dennis ac mae’r llygod swil yn fach iawn eu hunain hefyd (gan bwyso llai na darn dwy geiniog!). Maent wedi addasu i fyw yng nghanol y ddrysfa o goesynnau mewn llystyfiant glaswelltir.

Mae llygod medi’n rhywogaeth dan fygythiad sy’n wynebu dirywiad mawr, gyda dim ond rhai cofnodion ar Ynys Môn, gan awgrymu eu bod yn byw mewn llond llaw o ardaloedd efallai. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n bwriadu cynnal mwy o arolygon fel yr un yma sy’n gallu helpu i adnabod y poblogaethau sy’n weddill. Gobeithio wedyn y gallwn ni weithio gyda rheolwyr tir i geisio gwella’r cyfleoedd i’r creaduriaid rhyfeddol yma oroesi yn y dyfodol.

Os hoffech chi gymryd rhan mewn arolygon yn y dyfodol, cysylltwch â’n Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr, Katy Haines: katy.haines@northwaleswildlifetrust.org.uk