Bethany - Cynhyrfu'r dyfroedd i lawr yng Nghaerdydd

Bethany - Cynhyrfu'r dyfroedd i lawr yng Nghaerdydd

Mae gwirfoddolwr ifanc o Amlwch wedi cael ei gydnabod am ei hymroddiad i brosiect Ein Glannau Gwyllt yng Ngwobrau Elusennau Cymru.

Efallai bod y rhai ohonoch chi sydd wedi cymryd rhan yn Ein Glannau Gwyllt wedi cyfarfod Bethany Burrell, 15 oed, ryw dro yn y gorffennol. Ymunodd Bethany â’r prosiect yn ôl yn 2016 ac, ar ôl cymryd rhan gyda’i grŵp o Ysgol Syr Thomas Jones, arhosodd gyda ni – gan barhau i ddatblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth gan fentora a chefnogi pobl ifanc eraill o’i hysgol oedd yn newydd i’r prosiect. Yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf, mae wedi dod yn rhan greiddiol o ‘Môn Gwyrdd’, ein fforwm amgylcheddol dan arweiniad ieuenctid ar Ynys Môn ac, ar hyn o bryd, mae’n cynrychioli Ein Glannau Gwyllt ar fforwm ieuenctid Our Bright Future ledled y DU – gan sicrhau bod problemau amgylcheddol sy’n bwysig i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru’n cael eu clywed a’u trafod ar lefel genedlaethol. Mae ganddi angerdd diflino dros fywyd gwyllt a hyd yma mae wedi cofnodi mwy na 230 o oriau o amser gwirfoddol yn gwarchod, hybu a rhannu’r llefydd gwyllt gwych rydyn ni mor lwcus o’u cael ar garreg ein drws.

Yr ymrwymiad yma i warchod yr amgylchedd naturiol sydd wedi golygu bod Bethany yn rownd derfynol gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusen Cymru ar 15fed Tachwedd – seremoni fawreddog a gynhaliwyd yn amgylchedd trawiadol yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Roedd Bethany ymhlith y tri uchaf, cyflawniad anhygoel o ystyried bod yr enwebiadau wedi dod gan elusennau a sefydliadau o bob cwr o Gymru, a daeth yn iawn at y brig – gan gipio’r wobr i’r unigolyn yn yr ail safle yn y diwedd.

Hoffai pawb yn YNGC longyfarch Bethany ar ei chyflawniad gwych ac mae pawb ohonom ni yn y prosiect yn edrych ymlaen at gael ei chefnogaeth unwaith eto yn 2020!