Ceisiadau ar gyfer cynlluniau hyfforddi ieuenctid ar agor nawr!

Ceisiadau ar gyfer cynlluniau hyfforddi ieuenctid ar agor nawr!

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n cynnig cyrsiau hyfforddiant cadwraeth am ddim i bobl ifanc ar Ynys Môn, Gwynedd a Conwy yr haf yma.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae YNGC wedi bod yn dod â phobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru’n nes at y bywyd gwyllt rhyfeddol sydd ar garreg eu drws ac yn eu hysbrydoli i weithredu a gwarchod yr amgylchedd naturiol. Nawr, mae tîm prosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’, sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno’r gwaith arloesol yma, yn cynnig cynllun hyfforddi cadwraeth unigryw sy’n para pythefnos i bobl ifanc (16-24 oed) sy’n byw ar Ynys Môn, Gwynedd a Conwy. Mae’r rhaglen wedi cael ei chynllunio i roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau cadwraeth ymarferol, dysgu mwy am yr amgylchedd naturiol ac, yn bwysicach na dim, cael amrywiaeth o achrediadau ffurfiol yn dystiolaeth o’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 20 Gorffennaf a dydd Gwener 31 Gorffennaf ac yn rhoi sylw i’r canlynol:  

  • Hyfforddiant cadwraeth ymarferol yn defnyddio amrywiaeth o gelfi llaw
  • Cymorth cyntaf (cwrs undydd)
  • Rheoli gwarchodfa natur 
  • Adnabod rhywogaethau
  • Cadwraeth y môr a’r tir – beth yw’r gwahaniaeth?
  • Cydlynu pobl      
  • Cynnwys y gymuned leol – sut a pham?        
  • Cynnal gweithgareddau gwyddoniaeth y dinesydd

Ydych chi’n adnabod person ifanc sy’n angerddol am fyd natur ac yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd oedran/lleoliad uchod? Os felly, rhannwch y cyfle yma gyda’r person ifanc hwnnw – byddem wrth ein bodd yn clywed ganddo ef neu hi! Mae’r broses ymgeisio’n syml ac mae gan bobl ifanc tan ddydd Gwener 5 Mehefin i gyflwyno eu ceisiadau.

 

Mwy o wybodaeth ar gael yma