Swydd Hyfforddai Cadwraeth a Newid Hinsawdd dan hyfforddiant (10 lle ar gael)

Swydd Hyfforddai Cadwraeth a Newid Hinsawdd dan hyfforddiant (10 lle ar gael)

Lleoliad:
Llyn Parc Mawr Community Woodland, Newborough, , LL61 6SU
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, newid hinsawdd, neu byd natur? Ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am gadwraeth ymarferol a sut mae’n gweithio ar y tir? Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr yn ymuno yr haf yma i gynnig rôl unigryw i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n byw ar Ynys Môn.

Position details

Cyfnod:

-

Ymroddiad:

Dyddiau o'r wythnos

DISGRIFIAD SWYDD: Hyfforddai Cadwraeth a Newid Hinsawdd

DISGRIFIAD SWYDD: Hyfforddai Newid Hinsawdd a Chadwraeth

Hyd y swydd: Dwy wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener a dechrau ar yr 26ain Gorffennaf

Nifer y swyddi sydd ar gael: bydd 10 warden cadwraeth yn cael eu dewis

Lleoliad: Llyn Parc Mawr, Niwbwrch (bydd cludiant ar gael)     

Yn atebol i: Andy Charles-O’Callaghan (YNGC),

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr yn ymuno yr haf yma i gynnig rôl unigryw i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n byw yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Y nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad ymarferol o gadwraeth, dysgu sut i ddefnyddio datrysiadau gwyrdd i daclo newid hinsawdd, dysgu mwy am yr amgylchedd naturiol a gadael ar ôl y lleoliad dwy wythnos gydag amrywiaeth o gymwysterau AQA a phortffolio i gyfrannu tuag at yrfa yn y dyfodol.

Bydd y rôl yn cynnwys y canlynol: 

1. Hyfforddiant cadwraeth ymarferol yn defnyddio amrywiaeth o gelfi llaw   

2. Lleihau’r effaith newid hinsawdd drwy ddefnyddio datrysiadau gwyrdd

3. Dysgu sut i reoli tir a gwyddoniaeth hinsawdd

4. Derbyn cymwysterau ffurfiol ac achrediadau

5. Cadwraeth ar y môr a’r tir – beth yw’r gwahaniaeth?   

6. REC (Rescue Emergency Care) cwrs cymorth cyntaf un diwrnod

7. Cynnwys y gymuned leol – sut a pham?      

8. Sgiliau tu allan yn cynnwys gweithio gyda phren gwyrdd

Does dim rhaid i chi fod ag unrhyw gymwysterau penodol i gymryd rhan. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn rhydd i fynychu bob dydd ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch, a bod gennych chi ddiddordeb mewn dysgu am fyd natur, cadwraeth, a newid hinsawdd.   

Beth nesaf?

I lawr-lwytho’r ffurflen gais, ymwelwch â gwefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Gwybodaeth cais pwysig

Rydyn ni eisiau gwybod beth sy’n gwneud i chi ymddiddori mewn cadwraeth a newid hinsawdd a beth sy’n eich annog chi i fod eisiau cymryd rhan, felly cofiwch sôn am eich diddordebau a beth sy’n bwysig i chi wrth ysgrifennu eich cais! Hefyd cofiwch gynnwys cyfeiriad e-bost a’ch enw er mwyn i ni allu cysylltu â chi (e-bost rhiant/gwarcheidwad os ydych chi’n iau na 18 oed).

Manylion cyswllt

Anfonwch y cais cyflawn at Andy.OCallaghan@northwaleswildlifetrust.org.uk erbyn dydd Gwener, 12fed Gorffennaf.