Gwarchodfa Natur Bryn Pydew
Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!
19 results
Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!
Dyma ardal fechan hyfryd ar y Gogarth gyda golygfeydd trawiadol o’r môr a bywyd gwyllt rhyfeddol y glaswelltir.
Darn o laswelltir calchfaen a rhos morol ar lethrau gorllewinol y Gogarth Fawr enwog, yn gyforiog o löynnod byw a blodau gwyllt.
Noddfa wyllt yng nghanol môr o dir amaethyddol. Mae’r gors fawn yma’n gartref i gasgliad lliwgar o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol.
Lle gwych i fod yn agos at fywyd gwyllt, gyda’r cuddfannau adar yn cynnig cyfle i chi dreulio amser gyda thrigolion y warchodfa. Does dim eiliad ddiflas yma!
Cyfle i grwydro drwy flodau gwyllt wrth syllu allan am y môr neu draw am fynyddoedd Eryri.
Dyma warchodfa ddiarffordd ac anghysbell sy’n llawn golygfeydd a synau arallfydol. Edrychwch ar y gweision y neidr cyn-hanes yr olwg a’r planhigion bwyta pryfed, a gwrandewch am gri ryfedd y…
Bydd adar rhydio’r arfordir ac adar y coetir yn aros amdanoch chi yn y darn hyfryd yma o goetir sy’n edrych dros Afon fyd-enwog Menai.
Yn edrych dros Afon Menai ar un ochr a gyda golygfeydd o Eryri ar yr ochr arall, mae’r warchodfa yma’n werddon wyllt boblogaidd yng nghalon dinas Bangor.
Wedi’u hamgylchynu gan amaethyddiaeth a thai trefol, mae’r caeau hyn sy’n llawn blodau gwyllt a’r gwrychoedd aeddfed yn creu hafan i fywyd gwyllt.
73 results