Swyddog Recriwtio Aelodaeth (Gogledd Ddwyrain Cymru)

Swyddog Recriwtio Aelodaeth (Gogledd Ddwyrain Cymru)

Diwrnod cau:
Cyflog: £21,000 - £23,000 pro rata, ynghyd â chomisiwn a chynllun bonws, rhan amser, oriau i'w trafod yn y cyfweliad
Math y cytundeb: Parhaol / Oriau gweithio: Rhan amser
Hybrid
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am Swyddog Recriwtio Aelodaeth (Gogledd Ddwyrain Cymru) Ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd a’u hannog i gefnogi’r Ymddiriedolaeth Natur fel aelodau, drwy eu hysbrydoli am waith yr Ymddiriedolaeth Natur mewn digwyddiadau neu leoliadau eraill ar draws y rhanbarth.

Byddwch o gefndir gwerthiant, marchnata neu ddelio â’r cyhoedd yn y sector preifat, cyhoeddus neu elusennol. Byddwch yn gweithio mewn ffordd ddifyr a rhagweithiol wedi'i seilio ar brofiad cadarn o recriwtio wyneb yn wyneb neu wasanaeth cwsmeriaid. Byddem yn disgwyl dealltwriaeth o ddeddfwriaeth codi arian a diogelu data a'ch bod yn gyfforddus â gweithio tuag at dargedau a mynychu digwyddiadau awyr agored amrywiol. Byddwch yn gyfathrebwr gwych, yn unigolyn dymunol sy’n gallu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygu busnes a gweithgareddau sy’n rhan o'r Ymddiriedolaeth Natur. 

Rydych chi'n mwynhau rhyngweithio cyhoeddus a datrys problemau. Mae hon yn rôl newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodiad, felly dylech fod yn gyffrous am yr hyblygrwydd a'r cyfleoedd i fabwysiadu dull arloesol o weithredu. 

Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl sydd ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol. 

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Efallai y bydd angen archwiliad gan y DBS ar gyfer y rôl hon. 

Sut i wneud cais

Mae Disgrifiad Swydd llawn i'w weld isod. 

Atodwch CV llawn ynghyd â llythyr eglurhaol yn ateb y cwestiynau canlynol. 

Beth ydych chi'n ei wybod am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a pham ydych chi eisiau gweithio i ni? 

Ydych chi wedi codi arian ar gyfer elusen o'r blaen a beth wnaethoch chi? 

Ble ydych chi'n meddwl fyddai'n llefydd da i recriwtio aelodau newydd ar gyfer yr ymddiriedolaeth? 

Sut fyddech chi'n delio â gwrthodiad os nad yw rhywun eisiau dod yn aelod?