Swyddog Datblygu Natur
Byddwch o gefndir rheoli adnoddau naturiol, amgylcheddol neu ddefnyddio tir gwledig yn y sector preifat, cyhoeddus neu elusennol. Bydd gennych ddull trefnus o weithio sydd wedi ei seilio mewn profiad cryf o bartneriaeth a phrosiectau. Byddem yn disgwyl bod gennych ddealltwriaeth o reolaeth cefn gwlad, cadwraeth natur a ffermio a’ch bod yn gyfforddus gyda rheoli gwybodaeth a GIS syml. Byddwch yn gyfathrebwr gwych, yn hawddgar ac yn gallu gweithio gyda nifer o wahanol bobl ar draws yr amrywiaeth hyfryd o ddaearyddiaeth, datblygiad busnes, a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Ymddiriedolaeth Natur a’i sefydliadau partner.
Rydych yn mwynhau cyfarfod pobl a bod yn rhan o dîm. Mae hon yn rôl newydd a fydd yn esblygu yn dilyn eich penodiad felly dylech deimlo’n gyffrous am yr hyblygrwydd a’r cyfleoedd i weithio mewn ffordd arloesol.
Byddwn yn croesawu ceisiadau am weithio’n rhan amser neu i fod ar secondiad o swydd barhaol.
Byddwn yn ystyried cynigion am secondiad am gyfnodau byrrach nag 18 mis llawn y prosiect.
Bydd y cyflog a gynigiwn i’r ymgeisydd llwyddiannus yn dibynnu ar eich profiad. Bydd pobl ar secondiad yn aros wedi eu cyflogi gan eu cyflogwr presennol, eu cyflog a’u hamodau a thelerau.
Rydym yn gweithio gyda chonsortiwm o gyrff trydydd sector a chyhoeddus eraill i gryfhau’r dyheadau er budd natur yn y rhanbarth. Ein nod yw ehangu’r gynghrair o sectorau sy’n cymryd rhan a chau’r bwlch ariannu blynyddol o ddegau o filiynau o bunnoedd.
Mae’r consortiwm yn cynnwys yr RSPB, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Tirlun Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r prosiect hynod gystadleuol hwn wedi bod yn bosibl diolch i grant hael gan y Moondance Foundation.
Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, didwylledd, gweithredu’n bragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol dros hyrwyddo ein nodau, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sector ni, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad Efallai y bydd y rôl yma’n gofyn am archwiliad DBS.
Sut i wneud cais
Gallwch weld disgrifiad llawn o’r swydd isod.
Pan fyddwch yn cyflwyno eich manylion ar y ddolen isod, atodwch CV llawn os gwelwch yn dda, ynghyd â llythyr esboniadol sy’n egluro sut yr ydych chi’n addas ar gyfer y rôl sydd wedi ei disgrifio yn y Disgrifiad Swydd.
Y bwriad yw cynnal cyfweliadau a gweithgareddau asesu eraill rywbryd rhwng 18eg a 20eg Chwefror, ond byddwn yn fodlon trafod dyddiadau eraill os bydd angen.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch neu e-bostiwch Richard Ninnes ar 07786131377 / richardninnes@nwwt.org.uk