Rheolwr Dyngarwch

Rheolwr Dyngarwch

Diwrnod cau:
Cyflog: £35,000 - £40,000 (yn dibynnu ar brofiad)
Math y cytundeb: Parhaol / Oriau gweithio: Llawn amser
Hybrid
Allwch chi ysbrydoli pobl i fuddsoddi mewn dyfodol gwylltach? Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am Reolwr Dyngarwch uchelgeisiol gyda’i ffocws ar berthnasoedd i arwain ein rhaglen gyfrannu unigol ac i helpu i godi arian hanfodol ar gyfer adfer byd natur ledled Gogledd Cymru.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio a datblygu ein rhaglen ddyngarwch, gan feithrin perthnasoedd parhaol gyda chefnogwyr y mae eu haelioni yn gwneud ein gwaith yn bosibl. O apeliadau codi arian ysbrydoledig a siwrneiau cefnogwyr i gyfraniadau cymynrodd a rhoddion er cof, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau incwm cynaliadwy sy'n gwarchod bywyd gwyllt a llefydd gwyllt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Os ydych chi'n meithrin cyfranwyr, yn llunio apeliadau llawn cymhelliant, yn gofalu am bobl sy’n addo cymynroddion neu'n dadansoddi data cefnogwyr, byddwch yn helpu pobl i gysylltu ag achos sy'n bwysig iawn iddyn nhw.

Os ydych chi'n godwr arian profiadol sy'n deall pŵer perthnasoedd gwych a gofal rhagorol am gefnogwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, integriti, ymgyrchu pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Rydyn ni’n angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydyn ni’n gynhwysol. Rydyn ni’n annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac wir yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol. 

Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Efallai y bydd angen archwiliad DBS ar gyfer y rôl hon.

Mae Disgrifiad Swydd llawn i'w weld isod.

Atodwch CV lawn ynghyd â llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad perthnasol a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl wrth gyflwyno eich manylion drwy ddilyn y ddolen isod.