Cyfarwyddwr Codi Arian
Byddwch yn cyflawni twf incwm uchelgeisiol a chynaliadwy wrth ddyfnhau’r ymgysylltu â'r gynulleidfa a gwella proffil y sefydliad, gan sicrhau bod gennym yr adnoddau, y perthnasoedd a'r enw da sydd eu hangen i gyflawni ein cenhadaeth ar raddfa fawr.
Mae hon yn rôl amrywiol a dylanwadol, gan arwain y gwaith codi arian, aelodaeth, marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu â'r gynulleidfa. Byddwch yn gyrru twf ar draws ystod amrywiol o ffrydiau incwm, yn datblygu partneriaethau gwerth uchel, yn cryfhau ein brand a phrofiad cefnogwyr ac yn defnyddio gwybodaeth ac arloesedd i sicrhau’r effaith a’r cynaliadwyedd hirdymor gorau posib. Byddwch hefyd yn arwain ac yn ysbrydoli tîm perfformiad uchel wrth weithredu fel uwch lysgennad ar gyfer y sefydliad.
Gall y rôl hon apelio'n arbennig at uwch arweinwyr sy'n gweithio ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Cyfarwyddwr Datblygu neu mewn swydd arweinyddiaeth strategol debyg, sydd â chyfrifoldeb am gynhyrchu incwm, ymgysylltu â rhanddeiliaid, twf aelodaeth, cyfathrebu a phartneriaethau allanol.
Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, parch, ymddiriedaeth, uniondeb, actifiaeth pragmatig a chryfder mewn amrywiaeth. Er ein bod yn angerddol wrth hyrwyddo ein hamcanion, nid ydym yn feirniadol ac rydym yn gynhwysol. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifol a phobl ag anableddau. Rydym wedi ymrwymo i greu mudiad sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau a hunaniaethau unigol yn wirioneddol. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Diogelu o ddifrif iawn. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad ymrwymiad. Gall y rôl hon fod yn destun gwiriad DBS.
Mae Disgrifiad Swydd manwl i'w weld isod. Dilynwch y ddolen am gwybod mwy.
- Cyfarwyddwr Codi Arian_Disgrifiad Swydd_Cymraeg (318.84 KB)
- Director of Fundraising_Job Description_English (327.45 KB)
Os hoffech chi wybod mwy, byddwn yn cynnal gweminar fyw gyda Lindsay Thomas, y Prif Swyddog Gweithredol, ar 27 Gorffennaf rhwng 18:00 a 19:00. Bydd y ddolen archebu ar gael wythnos nesaf.