Garddio er lles bywyd gwyllt

Wildlife garden

Tom Marshall

GWEITHREDU

Garddio er lles bywyd gwyllt

Cymerwch ran yn ein harolwg gardd ar gyfer bywyd gwyllt yma

Bod yn wyllt yn yr ardd!

Fe allwn ni i gyd wneud rhywbeth i ddarparu ar gyfer bywyd gwyllt felly beth am ddechrau arni heddiw gydag un o’r syniadau ar ein gwefan ni. Mae garddio cyfeillgar i fywyd gwyllt yn ymwneud â chreu cysgod a darparu bwyd, dŵr a safleoedd nythu. Byddwch yn cael eich gwobrwyo drwy weld a chlywed mwy o adar, glöynnod byw, draenogod a chreaduriaid gwyllt eraill fyddai heb gael rheswm i ymweld â chi cyn hynny.

Gyda’i gilydd, mae ein gerddi ni’n dirwedd byw eang. Gydag amcangyfrif o 16 miliwn o erddi yn y DU, gall y ffordd maen nhw’n cael gofal wneud byd o wahaniaeth i fyd natur.

meadow

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Creu eich dôl blodau gwyllt eich hun

Mae dolydd blodau gwyllt naturiol yn un o’r cynefinoedd prinnaf yn y DU ac rydym wedi colli 97% o’n dolydd blodau gwyllt ers y 1930au. Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu i ddod â bywyd gwyllt yn ôl i'ch gardd.

Get started
White-tailed bumblebee

White-tailed bumblebee (c) Penny Frith

Dod â gwenyn yn ôl

Dechrau arni
Hedgehog in watering can

WildNet - Tom Marshall

Helpu draenogod

Dechrau arni
A small brown bat with large rounded ears, at least a third of it's body length, and wings spread wide as it leaps from the tree on the left side of frame. The background is pitch black as it is night, with a few branches of green leaves coming in from the left where the tree is.

Brown long-eared bat © Hugh Clark

Creu bocs ystlumod

Dechrau arni
Blue tit at feeder

Blue tit at feeder © Gillian Day

Gofalu am adar

Dechrau arni
Crab Apple Tree

©Anna Williams

Plannu coed a gwrychoedd

Dechrau arni
Blue tit on garden pots

Joshua Copping 

The responsible gardener

Get started

Ein 10 cyngor call!

Mae eich gardd bywyd gwyllt chi, wrth iddi ymuno â miloedd o erddi eraill sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, yn creu un gwarchodfa natur fawr - coridor gwyrdd sy’n gyforiog o fywyd a lliw. Cewch wybod sut gyda’n cyngor ni isod!                

1) Tyfu blodau a llwyni llawn neithdar ...

... denu gwenyn, glöynnod byw a phryfed eraill. Ceisio cael rhywbeth yn ei flodau drwy gydol y flwyddyn.

2) Plannu coed, gwrychoedd a phlanhigion dringo brodorol

Maent yn gysgod a bwyd da i bryfed, adar a mamaliaid. Dewiswch amrywiaethau sy’n cynhyrchu aeron. Mae gwrychoedd yn goridorau gwyrdd pwysig sy’n cysylltu darnau o gynefinoedd.

3) Creu dôl fechan

Mae dolydd blodau gwyllt yn bethau prin felly rhowch gynnig ar greu eich dôl eich hun. Yr opsiwn hawsaf yw gadael ardal o laswellt i dyfu – efallai bod rhai blodau gwyllt yno eisoes. Gallwch ychwanegu blodau gwyllt lleol, brodorol neu hadau at glytiau noeth o bridd.

4) Cloddio pwll

Maent yn boblogaidd gydag amffibiaid, ymlusgiaid, adar a phryfed, gan gynnwys gweision y neidr. Yn ddelfrydol, dylai un ymyl fod â llethr ar ei glan i sicrhau mynediad hwylus a dylai ymyl arall gynnwys planhigion tal yn gysgod i weision y neidr. Dim ond planhigion pwll brodorol ddylech chi eu defnyddio a pheidiwch â rhoi pysgod yn y pwll.

5) Creu pentyrrau o goed a cherrig, gerddi creigiog a waliau cerrig

Bydd mamaliaid bach, ymlusgiaid, amffibiaid, adar, pryfed ac infertebrata i gyd yn elwa a bydd yn rhywle i reolwyr plâu byd natur guddio rhag ysglyfaethwyr. 

6) Darparu bwyd a dŵr i adar drwy gydol y flwyddyn

Byddant yn bwyta rhai plâu wrth aros eu tro wrth y bwrdd. Rhowch gynnig ar wahanol fathau o fwyd adar i ddenu gwahanol rywogaethau o adar.

7) Gwneud blychau adar ac ystlumod a chartrefi i ddraenogod a phryfed ...

... allan o bren heb ei drin. Gosodwch flychau ystlumod fesul tri o amgylch y goeden a blychau adar mewn llecynnau cysgodol yn wynebu tua’r dwyrain ac allan o gyrraedd cathod.

8) Gwneud tomen gompost

Bydd eich gardd yn elwa ohoni ac mae’n gynefin ardderchog i amffibiaid ac ymlusgiaid; y rheolwyr plâu naturiol yn eich gardd. Drwy ddefnyddio compost cartref neu heb fawn rydych chi’n diogelu cynefin sy’n prinhau sy’n cael ei ddinistrio gan gloddio am fawn.

9) Peidio â defnyddio plaladdwyr

Byddant hefyd yn lladd pryfed buddiol fel gwenyn, adenydd siderog, pryfed hofran a buchod coch cota. Dewiswch ffyrdd naturiol o reoli gwlithod a malwod. Rhaid i chi annog cydbwysedd naturiol er mwyn datblygu, drwy gael amrywiaeth o gynefinoedd sy’n denu bywyd gwyllt amrywiol.

10) Ymlacio a mwynhau ...

Peidiwch â bod yn rhy daclus. Gadewch rai ardaloedd heb wneud dim â nhw. Rhaid cael sedd wedyn i chi allu eistedd a mwynhau’r bywyd gwyllt sy’n ymweld â’ch gardd!

Cael eich ysbrydoli...

Mae cymaint y gallwch chi ei wneud yn eich gardd i fywyd gwyllt – edrychwch ar rai o’n camau gweithredu a’n canllawiau.

Knapweed with bee

Blogiau gardd bywyd gwyllt

Darganfod mwy

Gwyllt am erddi?

Mae cymaint o bethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gardd – eisiau cael gwybod mwy? Edrychwch ar ‘Gwyllt Am Erddi’ – menter ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaethau Natur a’r RHS. Mae’n llawn syniadau am sut gallwch chi wella eich gardd er budd bywyd gwyllt ac mae’n cynnwys thema wahanol bob blwyddyn. Eleni rydyn ni’n mynd i fod yn wyllt am löynnod byw. Mwynhewch!

Red-tailed bumblebee

Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Mae ein bywydau ni i gyd yn well pan maen nhw ychydig yn wyllt
Yr Ymddiriedolaethau Natur
Blue tits on suet

Vine House Farm

Prynwch fwyd adar Vine House Farm

Fe fydd 4% o pob pryniant yn mynd i’ch Ymddiriedolaeth Natur lleol.

Siop Vine House Farm

Hoffi beth rydyn ni’n ei wneud? Beth am chwarae mwy o ran...