Rhyfeddodau naturiol fis Chwefror eleni

Rhyfeddodau naturiol fis Chwefror eleni

Snowdrops backlit by the sun © Amy Lewis.

Er bod tywydd mis Chwefror yn tueddu i’n cadw ni yn realiti oer y gaeaf, mae’r mis hefyd yn cynnig rhai rhyfeddodau o ran bywyd gwyllt sy’n gallu ein cynnal ni nes daw’r gwanwyn. Yn y blog yma, mae Sam Finnegan-Dehn yn ein hannog ni i stopio a sylwi ar fyd natur wrth gerdded, rhedeg a chrwydro o amgylch ein hardal leol.

Cnocell fraith fwyaf
Y gnocell glasurol. Er bod posib ei weld ar adegau eraill o’r flwyddyn, mae mis Chwefror yn fis gwych i wrando a chadw llygad am yr aderyn rhyfeddol yma. Am gyfle ychwanegol i’w weld, rhowch declyn bwydo adar tu allan i’ch cartref a bydd y gnocell yma’n hapus iawn i fwyta unrhyw gnau neu aeron fyddwch chi’n eu rhoi allan!

Gofalu am adar

Great spotted woodpecker

©Sam Hockaday

Cynffonnau ŵyn bach
Y goeden gyll yw un o’r coed cynharaf yn y gaeaf i gynhyrchu blodau, sef blodau gwryw sy’n ymddangos mewn clystyrau hir, main. Maent yn gyffredin iawn yr adeg yma o’r flwyddyn felly cadwch lygad amdanynt!

Hazel catkins

Hazel catkins Corylus avellana © Ed Marshall

Brogaod yn magu    
Mae mis Chwefror yn fis pwysig yng nghylch bywyd brogaod gan mai dyma’r amser pryd maent fel rheol yn rhoi’r gorau i aeafgysgu a symyd i ddŵr i ddechrau magu. Os oes gennych chi bwll neu os dewch ar draws un, chwiliwch am yr amffibiaid yma a’r grifft maent yn ei gynhyrchu. Gwell fyth, beth am greu pwll fis Chwefror eleni a rhyfeddu at y byd natur ddaw i fyw yn y cartref newydd rydych chi wedi’i greu iddynt.

Creu pwll

Common frogspawning

© Jon Dunkelman

Nico
Aderyn gwych arall i gadw llygad amdano yn ystod y mis sydd i ddod. Yr enw casgliadol yn Saesneg ar gyfer mwy nag un nico yw ‘charm’, sy’n briodol iawn pan rydym yn gweld harddwch a lliwiau ei blu. Eto, beth am roi cynnig ar osod teclyn bwydo adar yn eich gardd i hudo’r nico i’ch gofod awyr agored. 

Gofalu am adar

Goldfinch

© Sam Hockaday

Eirlysiau
Ein cofnod olaf yn y blog yma yw’r eirlys hardd. Gyda’r enw gwyddonol Galanthus nivalis yn golygu ‘llaeth’ ac ‘eira’, mae’r eirlys yn gallu codi calon yn nhwll y gaeaf. Mae’r blodyn wedi cael ei ystyried fel symbol o obaith am amseroedd gwell i ddod ers blynyddoedd lawer ac felly rydym yn croesawu ei ddyfodiad gyda breichiau agored!

 

Snowdrops

©Bob Coyle 

Dyna’r cyfan gennym ni. Os gwnaethoch chi fwynhau darllen y blog yma ac os ydych chi eisiau cefnogi ein gwaith, beth am ystyried gwirfoddoli gyda ni neu adael rhodd efallai!

Gobeithio cewch chi ddiwrnod da a welwn ni chi y tro nesaf.