Geocaching © Katrina Martin / 2020VISION
Geogelcio bywyd gwyllt yn Chwarel Marford (Digwyddiad i Ieuenctid)
Gwarchodfa Natur Chwarel Marford,
Marford, Wrecsam, LL12 8TG
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch draw i gymryd rhan mewn helfa drysor hwyliog ar thema bywyd gwyllt wrth archwilio byd natur yn Chwarel Marford.
Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc gyfeillgar a helpu i greu hwn yn fudiad ieuenctid dros newid yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, wrth ddarganfod y bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Chwarel Marford. Rhowch gynnig ar ddefnyddio sgiliau llywio i ennill yr helfa drysor yma yn yr awyr agored!
Mae hwn yn un o gyfres o sesiynau hydref y byddwn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o'ch oedran chi sydd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a natur.
Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Cyfarwyddiadau: 2.5 milltir i'r gogledd ddwyrain o Wrecsam. Wrth deithio tua'r de i mewn i bentref Marford ar y B5445, trowch i'r dde ar Lôn Springfield.
Bwcio
Pris / rhodd
Am ddimGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruAr agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.