Bushcraft at Palacerigg Park © Katrina Martin.
Cyfarfod Fforwm Ieuenctid (dwyrain): Gwylltgrefft
Gwarchodfa Natur Aberduna,
Gwernymynydd, Maeshafn, Sir Ddinbych, CH7 5LD
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch draw am fore o weithgareddau gwylltgrefft yng Ngwarchodfa Natur Aberduna, gan gynnwys cynnau tân, gwneud bara Bannock dros dân gwersyll (os bydd y tywydd yn caniatáu) a chwilota am fwyd gwyllt.
Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc gyfeillgar gan helpu i wneud hwn yn fudiad ieuenctid dros newid yng Ngogledd Cymru.
Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.
Mae hwn yn un o gyfres o sesiynau hydref y byddwn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl o'r un anian o'ch oedran chi sydd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a natur.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.
Bwcio
Pris / rhodd
Am ddimGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestru.Ar agor i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn unig.
Os ydych chi’n iau na 18 oed, bydd arnoch chi angen ffurflen caniatâd rhieni wedi'i llofnodi a gallwch ddod â hi ar y diwrnod. Bydd gennym ni gopïau ar gael i'w cwblhau ar y diwrnod hefyd.