Cyfarfod o’r Fforwm Ieuenctid (dwyrain): Geogelcio yn Chwarel Marford

Mon Gwyrdd Youth Forum at Cord Goch Nature Reserve

Mon Gwyrdd Youth Forum at Cord Goch Nature Reserve © NWWT

Cyfarfod o’r Fforwm Ieuenctid (dwyrain): Geogelcio yn Chwarel Marford

Lleoliad:
Darganfyddwch beth sy'n ein cysylltu ni â'r dirwedd yn y llecyn allweddol yma ar gyfer byd natur a bywyd gwyllt.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Lôn Springfield, Wrecsam, LL12 8TF. What3Words///dumpy.testing.initiates

Dyddiad

Time
10:30am - 12:30pm
A static map of Cyfarfod o’r Fforwm Ieuenctid (dwyrain): Geogelcio yn Chwarel Marford

Ynglŷn â'r digwyddiad

Ar agor i bobl 16 i 24 oed yn unig.

Ymunwch â chymuned gynyddol o bobl ifanc a helpu i greu mudiad ieuenctid dros newid yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Achub byd natur YW gweithredu dros yr hinsawdd. Mae'r argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth wedi'u cysylltu'n agos ond y newyddion da ydi, felly hefyd yr atebion.

Dyma un o gyfres o sesiynau'r hydref rydyn ni’n eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda'r nod o sefydlu Fforwm Ieuenctid newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd yn gyfle gwych i gyfarfod pobl debyg i chi o’r un oedran sydd hefyd â diddordeb mewn gweithredu dros yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol ac adferiad natur.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Am ddim

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru.
Ar agor i bobl 16 i 24 oed yn unig

Os ydych chi’n iau na 18 oed, bydd arnoch chi angen ffurflen caniatâd rhieni wedi'i llofnodi a gallwch ddod â hi ar y diwrnod. Bydd gennym ni gopïau ar gael i'w cwblhau ar y diwrnod hefyd.

Yn addas ar gyfer

Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn
image/svg+xml

Symudedd

I drafod unrhyw ofynion mynediad cysylltwch â Caitlin.Bucher-Flynn@northwaleswildlifetrust.org.uk

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch ag esgidiau cryf a dillad addas ar gyfer y tywydd. Os ydych chi o dan 18 oed, bydd arnoch chi angen ffurflen ganiatâd rhieni wedi'i llofnodi a gallwch ddod â hi gyda chi ar y diwrnod. Bydd hon yn cael ei hanfon atoch chi ar e-bost ychydig wythnosau ymlaen llaw. Bydd gennym ni gopïau ar gael i'w cwblhau ar y diwrnod hefyd (dewch yn gynnar os felly). 

Cysylltwch â ni

Caitlin Bucher-Flynn
Rhif Cyswllt: 07508312847