BLUE 24 osprey © Gary Jones wildlife photography
Antur Gweilch y Pysgod y Brenig dan arweiniad Gary Jones, ffotograffydd bywyd gwyllt
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â Gary Jones, ffotograffydd proffesiynol, i ddysgu mwy am weilch y pysgod anhygoel Llyn Brenig. Byddwn yn dechrau yn Ystafell y Gweilch y Pysgod yn y Ganolfan Ymwelwyr, lle bydd Gary yn rhannu stori ryfeddol y gweilch – eu mudo anhygoel, eu dychweliad i Ogledd Cymru, a bywydau'r adar sy'n nythu yn y Brenig.
Mae gweilch y pysgod wedi bod yn angerdd i Gary ers dros 20 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi treulio oriau di-ri yn tynnu eu lluniau a'u gwylio. Bydd yn rhannu rhai o'i hoff luniau, straeon o'r maes, a'r eiliadau sydd wedi gwneud iddo syrthio mewn cariad â'r adar nodedig yma.
Ar ôl y sgwrs, byddwn yn mynd i wylfan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, lle mae'r tîm gwirfoddol ymroddedig yn cadw llygad ar y gweilch y pysgod sy'n nythu drwy gydol y tymor magu. Mae'n gyfle gwych i ddysgu am y gwaith cadwraeth sy'n helpu i'w gwarchod ac i weld yn uniongyrchol sut mae'r prosiect yn gweithredu.
Wedyn byddwn yn mynd i Guddfan y Gweilch y Pysgod, dim ond 140 metr o'r nyth, lle, gyda rhywfaint o lwc, byddwn yn gallu gwylio'r adar wrth iddyn nhw bysgota, bwydo a gofalu am eu cywion. Mae gweld gweilch y pysgod o'r pellter yma’n brofiad gwirioneddol gofiadwy ac yn un sydd byth yn colli ei hud, dim ots sawl gwaith ydw i wedi bod yn ddigon ffodus i'w weld.
Bwcio
Pris / rhodd
£50Gwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer 12+
Yn addas ar gyfer
Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Mae croeso cynnes i gŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n llawn yn ein digwyddiad. Uchafbwynt allweddol ein diwrnod yw ymweld â chuddfan gweilch y pysgod Llyn Brenig. Rhaid i ni hefyd sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y gweilch y pysgod Atodlen 1 yma. Os oes arnoch chi angen ci cymorth i fynychu'r digwyddiad yma, cysylltwch â Sarah Callon cyn archebu i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gofynion penodol yn y ffordd orau: sarah.callon@northwaleswildlifetrust.org.uk