Archwilio pwll yn Big Pool Wood

A young girl and a woman sat cross-legged on a wooden platform, the woman is holding fishing nets and pointing outwards towards the camera. They are surrounded by reeds and other vegetation that grows around water.

Pond dipping © Ross Hoddinott/2020VISION

Ymunwch â ni am hwyl yn archwilio pwll a darganfod beth sy'n byw o dan y dŵr yn Big Pool Wood.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth y platfform archwilio pwll, ewch i mewn i'r warchodfa drwy'r brif giât a dilyn y llwybr i'r dde nes i chi ddod at y platfform archwilio pwll. Gronant, Flintshire, CH8 9JN. What 3Words///stud.condense.factory

Dyddiad

Time
10:30am - 4:00pm
A static map of Archwilio pwll yn Big Pool Wood

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch draw am ddiwrnod o hwyl yn archwilio pwll y warchodfa wlybdir hyfryd yma. Dilynwch lwybrau hygyrch i'r platfform archwilio pwll lle byddwn yn darganfod y gwahanol greaduriaid sy'n byw yn y dŵr.

Bydd teithiau cerdded tywys o amgylch y warchodfa hefyd i weld yr adar a mamaliaid bach eraill. Archebwch le naill ai yn y slot 10:30am neu 2:30pm.

Digwyddiad dan arweiniad gwirfoddolwyr ydi hwn sy’n cael ei gynnal gan y gwirfoddolwyr anhygoel yng Ngwarchodfa Natur Big Pool Wood.

Bwcio

Pris / rhodd

£2 y pen.
Croeso mawr i roddion ar y diwrnod.

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r llwybrau'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis. Am fwy o wybodaeth ewch i: northwaleswildlifetrust.org.uk/nature-reserves/big-pool-wood-nature-reserve

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas.

Bydd yr holl offer archwilio pwll yn cael ei ddarparu. 
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Dewch o hyd i le parcio diogel ar ochr y ffordd ger yr ysgol farchogaeth (SJ 102 838) neu gymryd y tro cyntaf i'r chwith i ddefnyddio'r maes parcio.

Cysylltwch â ni

Mark Roberts
Rhif Cyswllt: 07908728484