Willow warbler © Chris Gomersall/2020VISION
Willow tit © Adam Jones
Ydych chi eisiau dysgu mwy am adnabod adar sy’n canu? Os felly, dewch am dro gydag Anne Brenchley o Gymdeithas Adareg Cymru.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch am dro hamddenol braf ar hyd ffyrdd a llwybrau o amgylch y wylfan gweilch y pysgod, gan wylio adar gydag Anne Brenchley o Gymdeithas Adareg Cymru.
Bydd Anne yn eich helpu chi i chwilio am adar sy’n nodweddiadol o’r goedwig, y mynyddoedd clir, y rhostir a'r cynefin prysgwydd, a gwrando arnyn nhw. Bydd hi'n canolbwyntio ar ddod o hyd i’r cantorion yn eu plith ac yn rhoi cyngor i chi ar adnabod adar drwy eu golwg a’u sain.
Bydd y daith gerdded yn para tua 2 awr. Ar agor i adarwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd.
Bydd y daith cerdded yma’n cael ei chynnal drwy gyfrwng y Saesneg.