Allan yn Natur: ymunwch gyda ni i ddathlu diwedd mis Balchder

Bangor shoreline

Bangor shoreline © Tomos Jones

Pier

NWWT

Allan yn Natur: ymunwch gyda ni i ddathlu diwedd mis Balchder

Lleoliad:
Pontio, Bangor University, Deiniol Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2TQ
Archwiliwch rai o fannau natur gwych Bangor wrth sgwrsio â ffrindiau ac wynebau newydd mewn lle diogel a chefnogol.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth y brif fynedfa ym Mhontio: LL57 2TQ / ///motels.memory.norms. Mae yna nifer gyfyngedig o leoedd parcio i bobl anabl ar gyfer Pontio ar waelod Lôn Glanrafon.

Dyddiad

Time
5:30pm - 7:00pm
A static map of Allan yn Natur: ymunwch gyda ni i ddathlu diwedd mis Balchder

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae'r digwyddiad ar agor i'r gymuned LHDT+ a ffrindiau. Ymunwch â ni am dro hamddenol i archwilio rhai o fannau natur gwych Bangor a mwynhau golygfeydd o Afon Menai. Bydd y daith gerdded yn dod i ben wrth Pier y Garth tua 19:00, lle mae croeso i bobl aros o gwmpas ar ôl i'r digwyddiad ddod i ben a chymdeithasu, neu hyd yn oed gael bwyd neu ddiod.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gyda Llyfrau Lliwgar - clwb llyfrau LHDT+ - a Rhwydwaith Staff LHDT+ ym Mhrifysgol Bangor. Nid oes angen i chi fod yn aelod o'r naill na'r llall i ymuno!

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg rhugl, mae croeso i chi ddefnyddio Cymraeg neu Saesneg yn ystod y digwyddiad hwn.

Bwcio

Pris / rhodd

Am ddim

Suggested donation

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Nid oes angen cofrestru, dim ond troi fynnu.

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Cŵn tywys yn unig
image/svg+xml

Symudedd

Bydd y daith gerdded yn para 1-1.5 awr, gan ddilyn cymysgedd o lwybrau, gan gynnwys ar laswellt a mwd, sy'n serth mewn mannau gyda grisiau. Efallai y byddwn hefyd yn mynd i lawr i'r lan, sy'n greigiog ac yn anwastad. Mae toiledau ar gael ym Mhontio (lle rydym yn cyfarfod) ac mae toiledau cyhoeddus wrth Pier y Garth.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad awyr agored ac esgidiau addas, a dewch â dŵr.

Cysylltwch â ni

Tomos Jones
Rhif Cyswllt: 07726358228
Logos - Bangor University and Llyfrau Lliwgar
Community Fund Logo Logo