Volunteer picture © Brenig Osprey Project.
Osprey 3 © Trish Styles
Gwirfoddoli gyda gweilch y pysgod!
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i warchod gweilch y pysgod yng Ngogledd Cymru, dewch i'n gweld ni i ddarganfod mwy am wirfoddoli gyda Phrosiect Gweilch y Pysgod y Brenig.
Mae hwn yn ddiwrnod pryd gallwch chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 12pm a 3pm. Mae croeso i ddechreuwyr a phobl brofiadol a gallwn ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod i chi. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn ydi eich bod chi’n frwdfrydig ac yn gwbl gyfforddus yn sgwrsio â'r cyhoedd.
Bydd gwirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg a Saesneg ar gael i sgwrsio â nhw.
Dewch i gyfarfod y tîm a darganfod popeth am yr hyn y mae gwirfoddoli gyda’r prosiect anhygoel yma’n ei gynnwys.
Cofiwch fod rhaid i chi fod dros 18 oed i wirfoddoli gyda’r prosiect yma.
Bwcio
Pris / rhodd
Anogir rhoddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Nid oes angen cadw lle.Rhaid i chi fod dros 18 oed i wirfoddoli gyda’r prosiect yma.