Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni

Surveyors on a rocky shore covered in brown seaweeds, with clipboards and grid squares. Rockpools and a sandy beach are in the distance.

Surveyors Shoresearch Traeth Peniel © NWWT

Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni

Lleoliad:
Benllech Beach, LL74 8TT
Rhowch gynnig ar arolygu arfordiroedd creigiog Gogledd Cymru! Ymunwch â ni i archwilio'r arfordir, darganfod bywyd morol lleol, a helpu i gasglu data gwerthfawr ar gyfer cadwraeth

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod wrth y llithrfa i'r traeth (Grid ref SH 52312 82454; W3W: reeling.published.sharpen)

Dyddiad

Time
3:15pm - 4:45pm
A static map of Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dyma gyfle i ymuno â'n gwirfoddolwyr Shoresearch ni a dysgu am ein harolygon rhynglanwol i weld ydyn nhw'n eich siwtio chi. Rydyn ni allan bob mis mewn tair ardal hwb yn cofnodi'r hyn rydyn ni’n ei weld ar y lan er mwyn sefydlu llinell sylfaen hanfodol a helpu i gofnodi newidiadau.

Ar agor i bobl o bob lefel (16+ yn unig) - byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant sydd arnoch ei angen!

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae'r traeth yn fflat, ond mae angen croesi pibell allfa fawr, a’r tu hwnt i hynny mae creigiau wedi'u gorchuddio ag algâu a phyllau creigiog yn ardal yr arolwg.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd yn agos at y traeth yma, edrychwch ar https://www.traveline.cymru/
Mae toiledau yn agos at y traeth ym mhentref Benllech.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ac ar gyfer penlinio ar ddarn gwlyb o draeth. Esgidiau neu welingtyns sydd fwyaf addas am eich traed.

N.B.: nodwch y man cyfarfod yn fanwl gywir gan ddefnyddio'r cyfeirnod grid neu wybodaeth what3words. Nodwch hefyd rif ffôn symudol arweinydd y digwyddiad rhag ofn y bydd problemau ar y diwrnod.

image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni